Mae un o ganghennau Plaid Cymru wedi ysgrifennu at aelodau pennaf y blaid gan alw am ymchwiliad i nifer o faterion – gan gynnwys cwynion yn erbyn ymgeisydd yn Etholiad Cyffredinol 2017.
Mewn datganiad mae Cangen Tref Llanelli yn tynnu sylw at sawl mater, gan gynnwys methiant y blaid i ystyried “cwynion swyddogol” yn erbyn ymgeisydd swyddogol ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol y llynedd.
Mae’r datganiad yn honni bod 26 o aelodau wedi cyflwyno cwynion ym mis Awst 2017, ynglŷn ag ymddygiad yr ymgeisydd, ond ni chawson nhw eu “hystyried yn ôl trefniadaeth disgyblaeth swyddogol y Blaid”.
Mae’r gangen hefyd yn galw am ymchwiliad i’r broses o ddewis ymgeisydd ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2017 gan arweinyddiaeth ganolog y Blaid.
Roedd llythyr y gangen wedi ei gyfeirio at Gadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru, Alun Ffred Jones; yr Arweinydd, Leanne Wood; a’r Prif Weithredwr Gareth Clubb.
Honiadau eraill
- Honiad bod Alun Ffred Jones wedi caniatáu gwaharddiad dau aelod “heb ddilyn unrhyw broses ddilys”.
- Honiad bod “swyddogion etholedig ac aelodau lleol” wedi eu “cloi allan” o swyddfa weithredol y blaid yn Llanelli ers Awst 2017.
- Honiad bod ymdrechion i gyfathrebu â’r arweinyddiaeth wedi’u hanwybyddu hyd yn hyn.
- Honiad bod “nifer sylweddol” o aelodau ar draws Llanelli yn ystyried ymddiswyddo o’r Blaid, “o ddifri”.
Mae golwg360 wedi gofyn i Blaid Cymru am ymateb.