Mae un o ynnau mawr y Blaid Geidwadol yn San Steffan, wedi dweud y bydd Brexit yn cael gwaeth effaith ar wledydd Prydain na llywodraeth Lafur .
Yn ol yr Arglwydd Heseltine, a oedd yn gefnogwr mawr i’r ymgyrch i aros yn yr Undeb Ewropeaidd tra’n ymgyrchu at refferendwm Mehefin 2016, fe fydd gadael yn gwneud mwy o ddrwg na chael y blaid Lafur mewn grym.
Ac mae’r cyn-aelod o gabinet Margaret Thather yn dweud y bydd yn dal ati i wneud ei orau i rwystro proses Brexit rhag digwydd. Fe fydd yn defnyddio “pob dull a modd”, meddai, i orfodi refferendwm arall neu bleidlais yn Nhy’r Arglwyddi.
At hynny, meddai’r cyn-Ddirprwy Brif Weinidog, mae yna nifer fawr o Dorïaid yn ystyried gadael y blaid, wrth i Theresa May fynnu gweld Brexit yn dod i fwcwl.
Mae’r cyfan, meddai, yn gwneud i aelodau a fu’n ffyddlon cyn hyn, amau eu lle yn y “llwyth”.