Ifan Dylan sy’n edrych ar y seddi yng Nghymru y dylen ni fod yn cadw llygaid arnyn nhw yn yr etholiad. Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro …

Cyn i Nick ‘Waw factor’ Clegg gymhlethu pethau yn y drafodaeth yna ar ITV, nid oedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn debygol o gael unrhyw effaith ar y sedd yma.

Ras rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr oedd hi, hefo Plaid Cymru yno yn cnoi’n agos ar eu sodlau.

Y tebygrwydd yw taw dyma’r drefn o hyd, ond gallai cynnydd ym mhleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholaeth argoeli’n wael iawn i Blaid Cymru, gan wneud y ras rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr yn anoddach fyth i’w darogan.

Llafur sy’n dal y sedd, ac yn ceisio ei hamddiffyn am ei bywyd, tra bod y Torïaid yn tywallt arian mawr i mewn i’w hymgyrch yn lleol.

Ond gyda diffyg brwdfrydedd cyffredinol tuag at y ddwy blaid fawr, gallai Plaid Cymru wneud yn dda iawn y tro yma, yn enwedig o gofio perfformiad cryf iawn y blaid yn etholiad Cynulliad 2007.

Ond efo’r sïon am bleidleisio tactegol o fewn eu rhengoedd – er mwyn naill ai gadw’r Torïaid allan neu er mwyn cael gwared â’r blaid Lafur – ac adfywiad y Democratiaid Rhyddfrydol yn genedlaethol, pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd.

Nicholas Ainger

Nick Ainger sy’n dal y sedd ar gyfer y blaid Lafur, ac mae wedi dweud wrth golwg360 fod “rhaid pleidleisio dros y blaid Lafur” os yw pobol am weld y gwelliannau o fewn yr etholaeth yn parhau.

Ers i Lafur ddod i rym meddai, mae gwasanaethau cyhoeddus wedi eu “gweddnewid”.

Tynnodd sylw at ysgolion newydd sbon yn yr etholaeth, a’r gwelliannau yn y gwasanaethau iechyd.

Honnodd bod lefel diweithdra wedi “gostwng” yn yr etholaeth, a bod yr economi leol wedi “gweddnewid” wrth i “fasnach” a “thwristiaeth” gynyddu.

Rhybuddiodd yn erbyn amcanion y Ceidwadwyr gan ddweud fod gwneud toriadau heb gynllunio o flaen llaw, yn “beryglus.”

Mae record y Torïaid ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wael meddai, maen nhw wedi “cau diwydiannau” yn y gorffennol ond “heb osod dim yn eu lle.”

Derbyniodd fod llawer o bobol yn yr etholaeth “heb benderfynu” i bwy y maen nhw am bleidleisio ond, honnodd fod y pleidleiswyr “ddim yn cysylltu efo neges y Torïaid”.

“Does ar bobol ddim eisiau Llywodraeth Dorïaidd” honnodd.

Y Ceidwadwyr yw’r prif wrthwynebwyr mae’n credu, a dywedodd ei fod yn disgwyl y gallai cefnogwyr Plaid Cymru bleidleisio yn dactegol dros y blaid Lafur, er mwyn cadw’r Torïaid allan.

Simon Hart

Nid yw ymgeisydd y Ceidwadwyr, Simon Hart, yn credu fod y Democratiaid Rhyddfrydol na Phlaid Cymru yn y frwydr yma oherwydd eu perfformiad yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.

Doedd ddim chwaith wedi gweld arwydd o adfywiad gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholaeth, meddai wrth golwg360. Ond mae yn poeni y gallai’r etholiad cyffredinol gael ei benderfynu ar sail rhaglen deledu.

Ond roedd mewn penbleth meddai, ynglŷn ag ymosodiadau’r blaid Lafur yn benodol ar ei gysylltiadau efo’r byd hela (mae’r Ceidwadwyr yn dweud y byddant yn cynnig pleidlais rydd ar wyrdroi’r ddeddf sy’n gwahardd hela Llwynogod efo cŵn).

“Mae gan bawb yrfa cyn mynd mewn i wleidyddiaeth,” meddai, gan gyfeirio at ei waith fel Prif Weithredwr y Cynghrair Cefn Gwlad.

Mae angen i Lafur roi cyfrif am eu hanes a chynllunio at y dyfodol meddai, “nid canolbwyntio ar fy ngyrfa i.”

Cyfaddefodd ei fod yn credu fod yna lawer o bobol sydd heb benderfynu ym mha ffordd y byddan nhw’n pleidleisio.

“Rydw i’n cynnig cyfle gwahanol” meddai, “does gen i ddim ‘magic pill’, ond mi wna i’r gorau y galla i.”

Ar y llwyfan cenedlaethol meddai, mi fyddai’r Ceidwadwyr yn sicrhau fod “lleiafrifoedd yn cael eu clywed”, ac yn ei gwneud hi’n “haws i bobol i fyw eu bywydau heb ymyrraeth gan lywodraeth”.

“Dyma be rydw i’n gynnig.”

John Dixon

Mae ymgeisydd Plaid Cymru, John Dixon, wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn galw ar gefnogwyr traddodiadol ei blaid i beidio ildio i’r demtasiwn o bleidleisio yn dactegol.

Honnodd fod pleidleisio fel hyn yn “gweithio’r ddwy ffordd.”

Mae’n bosib y bydd cefnogwyr Plaid Cymru yn pleidleisio i Lafur er mwyn cadw’r Ceidwadwyr allan meddai. Ond mae wedi dod ar draws cefnogwyr Plaid Cymru hefyd sydd am bleidleisio i’r Torïaid er mwyn cael gwared â’r blaid Lafur. Mae hyn yn cael yr effaith o “ganslo’r” bleidlais dactegol meddai.

Galwodd ar i bobol “bleidleisio yn gadarnhaol,” “dros rywbeth nid yn erbyn rhywbeth”, am y “person y maen nhw eisiau i’w cynrychioli”.

Cyfaddefodd ei fod wedi dod ar draws llawer mwy o bobol nag arfer yn yr etholaeth sydd yn dweud eu bod yn “ystyried” pleidleisio i’r Democratiaid Rhyddfrydol – ond tanlinellodd fod y bobol yma heb benderfynu yn sicr eto ac mai “ystyried” gwneud y maen nhw.

Roedd yn beirniadu’r penderfyniad o eithrio Plaid Cymru o’r trafodaethau rhwng arweinwyr y prif bleidiau Prydeinig. Mae hyn wedi codi proffil y pleidiau yna ar draul “gobeithion Plaid Cymru” meddai.

Dywedodd fod y “dicter” tuag at helynt y costau yn San Steffan yn dal yn amlwg yn yr etholaeth, a bod “diflastod” tuag at “y ddwy blaid fawr.”

Mae pobol wedi “syrffedu” efo Llafur, meddai, ond does “dim brwdfrydedd mawr” am y Ceidwadwyr chwaith.

Dywedodd y byddai ef yn “sefyll dros yr etholaeth a thros Gymru.”

Yr ymgeiswyr am sedd Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn Etholiad Cyffredinol 2010

Ymgeisydd Plaid
Nicholas Ainger Llafur
Simon Hart Y Ceidwadwyr
John Dixon Plaid Cymru
John Richard Gossage Y Democratiaid Rhyddfrydol
Ray Clarke UKIP
Henry Langen Annibynnol

Ffeithiau

  • Pwy enillodd etholiad 2005: Llafur – Nicholas Ainger
  • O sawl pleidlais: 1,910
  • Nifer yr etholwyr yn Etholiad Cyffredinol 2005: 56,245
  • Y nifer a bleidleisiodd yn Etholiad Cyffredinol 2005: 37,863

Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro Etholiad 2005

Plaid Pleidleisiau Canran o’r bleidlais
Llafur 13,953 36.9
Y Ceidwadwyr 12,043 31.8
Plaid Cymru 5,582 14.7
Y Democratiaid Rhyddfrydol 5,399 14.3
UKIP 545 1.4
Legalise Cannabis Alliance 237 0.6