Simon Thomas
Mae’r Aelod Cynulliad Simon Thomas yn galw am sicrhau fod Cymru yn hunangynhaliol mewn trydan adnewyddol erbyn 2030.

Mewn araith ynglŷn ag adnoddau naturiol ar faes yr Eisteddfod yn Wrecsam galwodd am sefydlu Cronfa Cyfoeth Cymru ar gyfer creu ynni mwy adnewyddol a’u gwneud yn fwy cynaliadwy.

“Mae ein gweledigaeth ni yn un o Gymru sydd yn fwy hunangynhaliol yn economaidd a democrataidd, gwlad a all fanteisio ar ei hadnoddau naturiol – dwr, gwynt a’r llanw – er lles ei dinasyddion a’r amgylchedd,” meddai Simon Thomas o Blaid Cymru.

“Mae modd i Gymru fod yn hunangynhaliol mewn trydan adnewyddol erbyn 2030, ond dim ond os oes gan Gymru’r cyfrifoldeb dros ddŵr ac ynni yn ei gyfanrwydd.

“Rydw i’n galw ar lywodraeth Cymru i greu Cronfa Cyfoeth Cymru fel y gall cymunedau hawlio arian i wneud eu hunain yn fwy cynaliadwy.”

Datganoli

Dywedodd fod gan y Ceidwadwyr fwy o ddiddordeb mewn torri trethi ar gyfer y cyfoethocaf na chreu economi gynaliadwy i Gymru.

“Mae gan Gymru ffynonellau helaeth o ynni adnewyddol a allai nid yn unig dorri ôl troed carbon Cymru a chael atebion cynaliadwy i’n hanghenion ynni, ond hefyd creu cyfleodd busnes a chyflogaeth sylweddol i’n gwlad,” meddai.

“Bydd y Blaid yn anelu at wneud Cymru yn hunangynhaliol mewn trydan adnewyddol erbyn 2030. Hoffem i’r holl bwerau dros ddŵr a chynhyrchu ynni gael eu datganoli.

“Mae dŵr yn hollbwysig, ac y mae’n dod yn gynyddol werthfawr yng nghyd-destun newid hinsawdd ac yr argyfwng amgylcheddol. Mae’n adnodd naturiol sy’n helaeth yng Nghymru.

“Dylai pwerau a chyfrifoldeb dros ddŵr orwedd gyda ein Cynulliad ni. Mae’n rhaid i Gymru cael pŵer llawn dros bolisi, rheoleiddio a rheoli dŵr, fel adnodd allweddol i ddyfodol ein cenedl.

“Rydym eisiau gweld pobl Cymru yn elwa o fuddiannau ein tir gwerthfawr. Mae Stad y Goron yn dirfeddianwr sylweddol yng Nghymru. Hwy hefyd sy’n berchen gwely’r môr ac y maent yn berchen ar 65% o flaendraeth.

“Mae’r rhain yn asedau gwerthfawr. Cred y Blaid ei bod yn hen bryd i holl elw o Stad y Goron yng Nghymru cael ei ddefnyddio er lles pobl Cymru. Dylai drosglwyddo perchenogaeth i Lywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru. “