Meirion Prys Jones
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i ddarparu gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd.
Galwodd Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru i sicrhau bod adrannau’ r Llywodraeth yn Whitehall yn gweithredu safonau iaith o dan y Mesur iaith newydd.
Mae Llywodraeth San Steffan yn darparu llawer iawn o wasanaethau sylfaenol sydd eu datganoli i Lywodraeth Cymru, meddai.
Mae’r rheini yn cynnwys:
• Tystysgrifau genedigaeth, priodas, marwolaeth
• Pasbortau
• Ffurflenni treth
• Canolfannau gwaith
• Pensiynau
• Gyrru
• Llysoedd
Dywedodd Meirion Prys Jones fod y Bwrdd yn derbyn mwy o gwynion am ddiffyg darpariaeth Gymraeg yn y meysydd hyn nag unrhyw beth arall.
“Y rheswm am hynny, yn ein barn ni yw gan mai mater o ddewis yw darparu gwasanaethau Cymraeg,” meddai.
“Mewn gormod o achosion, maen nhw’n dewis peidio â gwneud.
“Ar hyn o bryd, caiff cyrff y Goron ddewis a ydyn nhw am baratoi cynlluniau iaith neu beidio.
“Yn ein barn ni, dylent orfod fod yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth iaith gan basio dewis iaith i’r cyhoedd.
“Y cyhoedd, ac nid adrannau Whitehall , ddylai gael y dewis iaith.”
Dywedodd fod ymchwiliad statudol sydd gan y Bwrdd ar droed yn ymwneud ag adrannau Whitehall, sef yr Asiantaeth Safonau Gyrru, y DVLA, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Comisiwn Etholiadol.
“Cyfrifoldeb Cheryl Gillan fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru yw bod yn llais dros siaradwyr Cymraeg yn y Cabinet yn Llundain,” meddai.
Ychwanegodd y bydd Bwrdd yr Iaith yn cwrdd â hi ar 12 Medi er mwyn gwneud eu safbwynt ar y mater yn glir.