Theresa May - wedi galw etholiad brys ar Fehefin 8
Mae disgwyl i Wasanaeth Erlyn y Goron gyhoeddi heddiw a fydd Aelodau Seneddol Ceidwadol yn cael eu herlyn tros honiadau o dwyll etholiadol.

Mae 15 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr wedi cyflwyno tystiolaeth mewn perthynas ag ymgyrch etholiadol 2015.

Y gred yw fod treuliau wedi cael eu cofnodi’n anghywir, a bod hynny’n groes i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobol 1983.

Fe ddylen nhw fod wedi cael eu cofnodi fel treuliau lleol, ond mae lle i gredu iddyn nhw gael eu cofnodi fel rhan o ymgyrch genedlaethol.

Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi cael ei chyhuddo gan Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon o alw etholiad brys Mehefin 8 cyn i’r ymchwiliad niweidio’i phlaid.

Ond mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn mynnu na fydd yr etholiad yn dylanwadu ar eu penderfyniad i erlyn unigolion.

Maen nhw wedi gwrthod cadarnhau y bydd cyhoeddiad heddiw.