Fe fydd hyd at 300 o swyddi’n cael eu creu yng Nghasnewydd erbyn 2022 wrth i ganolfan gyswllt Carpeo symud yno.

Mae disgwyl i 60 o swyddi gael eu creu erbyn diwedd y flwyddyn, a’r gweddill o fewn pum mlynedd.

Mae’r cwmni’n cyflogi 250 o bobol yn Swindon ar hyn o byd, ond fe fyddan nhw’n symud i Gymru gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Y disgwyl yw y bydd y ganolfan newydd yn agor ym mis Mehefin, gan gyflogi 24 o bobol yn syth bin.

Bydd gweithwyr yn derbyn £22,000 o gyflog y flwyddyn, gyda bonws o £7,500 ar gael hefyd.