Heledd Fychan a Vaughan Hughes (Llun o dudalen Facebook Heledd Fychan)
Mae tad a merch wedi’u hethol yn gynghorwyr Plaid Cymru yn etholiad lleol Mai 4 – y naill ym Mon, a’r llall ym Mhontypridd.
Enillodd Heledd Fychan sedd dros Blaid Cymru ym Mhontypridd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf, a’i thad, Vaughan Hughes, dros yr un blaid yn etholaeth Lligwy, Ynys Môn.
“Diolch o galon i drigolion Pontypridd am fy ethol fel cynghorydd sir,” meddai Heledd Fychan, sy’n gweithio i Amgueddfa Cymru, ar wefan gymdeithasol Twitter.
“Anrhydedd o’r mwyaf ac edrych ymlaen i ddechrau’r gwaith!”
Dywedodd yr Holyhead Mail ar Twitter fod Vaughan Hughes, sy’n gyd-olygydd cylchgrawn Barn, yn “methu â chuddio ei foddhad” yn dilyn y fuddugoliaeth ddwbwl i’r teulu.