Kezia Dugdale, arweinydd Llafur yn yr Alban
Mae’r blaid Lafur wedi colli rheolaeth o ddau o’r pedwar cyngor yn yr Alban lle’r oedd ganddi fwyafrif – yn cynnwys dinas Glasgow.
Y blaid Geidwadol gafodd y noson orau, yn cipio 74 o seddi newydd, ac felly’n diweddu gyda chyfanswm o 125 o gynghorwyr wedi’u hethol.
Mae’r SNP yn dal i fod ymhell ar y blaen, gyda 172 o gynghorwyd, gyda phlaid Nicola Sturgeon yn ennill 9 sedd ychwanegol.
101 o gynghorwyr sydd gan Lafur ar ol etholiad Mai 4 – gostyngiad o 47.
Y tro cyntaf
Am y tro cyntaf erioed, mae gan y Ceidwadwyr bellach gynghorydd yn sedd Ferguslie Park yn Paisley – yr ardal dlotaf yn yr Alban – ac maen nhw wedi cynyddu nifer y cynghorwyr yn Glasgow, lle nad oedd ganddyn nhw ond un cynghorydd cyn etholiad Mai 4.
Mae Llafur wedi colli ei mwyafrif yng Ngorllewin Swydd Dunbarton, lle’r enillodd yr SNP dair sedd ychwanegol a dod y blaid fwyaf yno gyda deg o gynghorwyr. Fe gollodd Llafur bedwar cynghorydd yno, gyda dim ond wyth o gynghorwyr yn cael eu hethol yno,
Yr SNP yw plaid fwyaf Cyngor Dinas Aberdeen ers neithiwr, gyda 19 o gynghorwyr – cynnydd o dri ers 2012.