Mae Lisa Fearn yn gogydd sydd wedi sgrifennu llyfr coginio ac sy’n ymgeisio am sedd ar Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae’n ymgeisydd annibynnol am sedd Ward Abergwili ac yn gobeithio llenwi esgidiau Pam Palmer sydd wedi bod yn gynghorydd annibynnol yno ers 30 mlynedd.

Meddai Lisa Fearn wrth golwg360: “Pan ofynnodd Pam Palmer fi os o’n i’n fodlon cymryd drosto ryw bum mlynedd yn ôl o’n i’n eitha bodlon rhoi go arni”.

Dyma’r tro cyntaf iddi fentro i’r byd gwleidyddol.

“Mae’n hollol newydd i mi. Dw i wastad wedi bod â diddordeb – nid mewn politics – ond mewn pethe cymunedol a dyna pam dw i’n sefyll fel ymgeisydd annibynnol.”

Nid yw’n bwriadu dod â gwleidyddiaeth bleidiol i mewn i’r Cyngor, meddai.

“Dw i ddim yn meddwl ei bod hi’n bwysig i gael polisïau ar y lefel yma oherwydd cynrychioli’r bobol leol a rhoi llais i’r bobol mewn yn y Cyngor Sir fydden i a ta beth sydd o bwys iddyn nhw, fe fydd o bwys i fi.”

Llwyddiant diweddar fel cogydd yn help

Mae’r ffaith bod Lisa Fearn wedi dod yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ac yn awdur cyhoeddedig wedi bod o ryw gymorth iddi wrth ymgeisio:

“Dw i wedi cael hyder o fod mewn man cyhoeddus a siarad yn gyhoeddus … ond mae’n fenter hollol newydd, mae’n rhywbeth gwahanol i beth dw i wedi gwneud o’r blaen.”

Mae nifer, er hynny, yn credu bod ganddi ormod ar ei phlât yn barod, a hynny wrth iddi gynyddu ei busnes, The Pumpkin Patch – sef ysgol goginio a garddio.

“Mae lot o bobol yn meddwl fy mod i’n rhy fishi i gadw i wneud y pethe yma.”

Ond – “er ein bod ni’n cymryd mwy o waith ymlaen, ry’n ni hefyd yn cael fwy o help gyda theulu a staff er mwyn gallu rhedeg y cyfan.”

Nid Lisa Fearn yw’r unig ymgeisydd am sedd Ward Abergwili. Mae’n wynebu Dorian Thomas Williams o Blaid Cymru.