Punnoedd newydd (Llun: Victoria Jones/PA Wire)
Mae wedi dod i’r amlwg bod problemau yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant wedi arwain at nifer o ddarnau arian £1 newydd diffygiol yn cael eu rhyddhau i’r cyhoedd.

Mae’n debyg bod canol sawl darn punt ar goll yn llwyr ac mae sawl pishyn diffygiol ar werth ar y We am dros £5,000.

Cafodd yr arian newydd ei ryddhau fis diwethaf fel ymgais i wneud hi’n anoddach i fathu punnoedd ffug.

Bydd yr hen bunt a’r bunt newydd yn cydfodoli am gyfnod o chwe mis tan fydd yr hen ddarn yn dod i ben fel arian cyfreithlon ar Hydref 15.

“Swm isel o ddarnau”

“Fel y byddech yn disgwyl, mae gennym reolau ansawdd llym,” meddai llefarydd ar ran Y Bathdy Brenhinol.

“Er hynny mi fydd amrywiant ymysg swm isel o ddarnau arian bob tro. Yn enwedig yn y broses taro oherwydd y nifer o ddarnau a chyflymder cynhyrchu.”

Mae tair miliwn o bunnoedd modern yn cael eu bathu yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant bob diwrnod.