Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac elusen AntiCoagulation Ewrop wedi dod at ei gilydd i greu fideo er mwyn codi ymwybyddiaeth am berygl clotiau gwaed ymysg pobol â chanser.
Mae’r fideo wedi ei greu yn benodol i Gymru ac wedi ei gynnig i Wasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru am ddim.
Oni bai am y canser ei hun, clotiau gwaed sydd bennaf gyfrifol am farwolaethau ymysg pobol â chanser yn ôl ymchwil Prifysgol Caerdydd.
Mae clotiau gwaed yn y gwythiennau – neu thrombosis sy’n gysylltiedig â chanser (CAT) – yn dueddol o ddatblygu o fewn tri mis cyntaf diagnosis ac felly mae’n bwysig bod cleifion yn wyliadwrus.
“Gwella ymwybyddiaeth”
“Mae’r fideo rydym wedi lansio heddiw yn helpu pobol sydd wedi cael diagnosis canser, i wella eu hymwybyddiaeth o’r camau sydd angen cymryd er mwyn lleihau risg CAT,” meddai Prif Weithredwr AntiCoagulation Ewrop, Eve Knight.
“Trwy roi’r deunyddiau a strategaethau cywir i gleifion a gweithwyr proffesiynol, gallwn atal peth o’r marwolaethau diangen trwy thrombosis sy’n gysylltiedig â chanser.”
Clotiau Gwaed, Canser a Chi – Blood Clots, Cancer and You from anticoagulation uk on Vimeo.