Marine Le Pen - galwodd i weld y gweithwyr, nid y siwtiau
Mae’r ddynes sy’n sefyll i fod yn arlywydd nesaf Ffrainc, wedi ennill y blaen ar ei gwrthwynebydd heddiw – a hynny trwy alw heibio’n annisgwyl i ffatri yng ngogledd y wlad.
Tra bod Emmanuel Macron yn cynnal cyfarfod gydag arweinwyr undeb ffatri peiriannau golchi Whirlpool, fe benderfynodd Marine Le Pen droi i mewn i’r ffatri ei hun, gan ei chyflwyno ei hun i’r gweithwyr.
Fe gafodd yr ymweliad ei ddarlledu’n fyw ar sianel newyddion BFM.
A thra’r oedd Marine Le Pen yn treulio amser yn tynnu hunluniau gyda staff y ffatri, roedd Emmanuel Macron yn cael ei bortreadu fel y dyn y tu ol i ddrysau caëedig yn trafod gyda siwtiau.
Hyd yn oed cyn ymddangosiad annisgwyl Marine Le Pen heddiw, roedd ymyraeth Emmanuel Macron yn y frwydr i achub ffatri Whirlpool yn Amiens, yn cael ei weld yn un dadleuol.
Mae’r ffatri yn Amiens mewn peryg oherwydd bod y gwaith o gynhyrchu sychwyr dillad yn dod i ben yno eleni, a symud i wlad Pwyl.