Jeremy Corbyn Llun: PA
Mae arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn wedi ymrwymo i gryfhau hawliau gweithwyr os fydd y blaid yn llwyddo i sefydlu Llywodraeth yn dilyn yr etholiad cyffredinol ym mis Mehefin.
Wrth annerch undebau llafur yn Aviemore yn Ucheldiroedd yr Alban dywedodd bod anghydraddoldeb ac annhegwch wedi gwaethygu dan reolaeth y Ceidwadwyr.
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, dywedodd y byddai Llafur yn cyflwyno “cyflog byw go iawn” o £10 yr awr ac y bydden nhw’n cael gwared ar gytundebau dim-oriau.
Dywedodd hefyd y byddai’n diddymu’r Ddeddf Undebau Llafur, sef deddfwriaeth sy’n golygu bod angen hyn a hyn o weithwyr i bleidleisio o blaid streic fel ei bod yn gyfreithlon.
Dyma oedd ymweliad cyntaf Jeremy Corbyn â’r Alban fel rhan o’i ymgyrch etholiadol a daeth ei araith ar ôl cyhoeddiad pôl piniwn oedd yn awgrymu bod y blaid Lafur ymhell y tu ôl i’r Ceidwadwyr a’r SNP.