Ann Clwyd o'i chyfri Twitter - fe drydarodd mai ymdrech sinigaidd i dynnu sylw oddi wrth Brexit oedd yr etholiad
Mae Aelod Seneddol Cwm Cynon, Ann Clwyd, ymhlith yr 13 o aelodau a bleidleisiodd yn erbyn galwad Theresa May yn San Steffan heddiw i gynnal etholiad cyffredinol brys ymhen chwech wythnos.
O blith yr 13, roedd naw o’r ASau yn rhai Llafur: Ann Clwyd (Cwm Cynon), Ronnie Campbell (Blyth Valley), Paul Farrelly (Newcastle-under-Lyme), Jim Fitzpatrick (Poplar a Limehouse), Clive Lewis (De Norwich), Fiona Mactaggart (Slough), Liz McInnes (Heywood a Middleton), Dennis Skinner (Bolsover) a Graham Stringer (Blackley a Broughton).
Aelodau annibynol oedd tri o’r pedwar arall – Arglwyddes Hermon (North Down), Natalie McGarry (Dwyrain Glasgow) a Michelle Thomson (Gorllewin Caeredin); ac un aelod SDLP, sef Alasdair McDonnell (De Belffast).
Cefnogaeth i Theresa May
O blith y 522 o Aelodau Seneddol a gefnogodd alwad Theresa May i gynnal etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8, y mae 325 o Geidwadwyr a 174 o’r blaid Lafur.
Roedd wyth allan o naw aelod y Democratiaid Rhyddfrydol o blaid yr alwad, gyda’r cyn-arweinydd, Nick Clegg, ddim ar y rhestr o aelodau a fwrodd bleidlais.
Ymysg y rhai eraill a bleidleisiodd dros etholiad ar Fehefin 8, y mae wyth AS Unoliaethwyr Democrataidd Ulster (DUP); tri aelod Plaid Cymru; dau AS Plaid Unoliaethwyr Ulster; a chyd-arweinydd y Blaid Werdd, Caroline Lucas.