Mae ymgyrch i helpu pobol i roi’r gorau i ysmygu wedi’i lawnsio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Bwriad cynllun ‘Helpa fi Stopio’ yw gwella ymwybyddiaeth o’r cymorth proffesiynol sydd ar gael er mwyn rhoi’r gorau i ysmygu.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ysmygwyr pedair gwaith yn fwy tebygol o lwyddo i roi’r gorau gyda chefnogaeth broffesiynol a meddyginiaeth.
Yn ôl canlyniadau’r Arolwg Iechyd Cymreig 2015 mae 68% o’r 492,000 o bobol sydd yn ysmygu yng Nghymru am roi’r gorau iddi.
“Dyfodol di-fwg”
“Yn dilyn cyhoeddiad ymchwil diweddar am ysmygwyr yng Nghymru, mae wedi dod i’r amlwg bod llawer ddim yn ymwybodol o’r holl wasanaethau sydd ar gael iddyn nhw.
“Mi fydd Helpa fi Stopio yn delio â hyn,” meddai Ashley Gould, un o ymgynghorwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Rydym yn cydnabod ei bod hi’n anodd rhoi’r gorau i ysmygu, ac mae arweiniad a chymorth gwir yn medru gwneud gwahaniaeth.
“Gyda ‘Helpa fi Stopio’ mae gennym dîm sydd yn medru trafod yr holl opsiynau ac yn medru helpu chi ar eich ffordd tuag at ddyfodol di-fwg.”