Ken Skates yn croesawu cwmni fferyllol rhyngwladol
Mae 73 o swyddi newydd am gael eu creu yng Nghwm Rhymni wrth i gwmni sy’n arbenigo mewn gwasanaethau fferyllol symud i dref Rhymni o’u safle presennol yng Nghrughywel.
Mae’r datblygiad hwn yn rhan o fuddsoddiad gwerth £9.5 miliwn gan y cwmni Sharp Clinical Services sy’n gwmni clinigol rhyngwladol sy’n cyflogi mwy na 7,000 o bobol mewn 23 o wahanol wledydd.
Ond, fe gyfrannodd Llywodraeth Cymru £500,000 at y prosiect i sicrhau bod y cwmni’n ehangu ac yn ail-leoli mewn tref arall yng Nghymru, yn hytrach na symud i ganolbarth Lloegr.
‘Bwrw gwreiddiau yng Nghymru’
“Bydd y cwmni gofal iechyd rhyngwladol mawr yn bwrw gwreiddiau yng Nghymru, gan feithrin ein henw da fel lleoliad da ar gyfer cwmnïau gwasanaethau fferyllol,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.
“Rwy’n falch iawn bod cymorth gan Lywodraeth Cymru wedi helpu i sicrhau bod y buddsoddiad mawr hwn yn cael ei wneud yng Nghymru gan greu amrywiaeth o gyfleoedd gwaith da i bobol leol a dod â bywyd newydd i hen adeilad diwydiannol segur,” ychwanegodd.