Andrew RT Davies
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi disgrifio’r digwyddiadau yn San Steffan heddiw fel “ymosodiad ar ddemocratiaeth”.

“Mae realiti hunllefus y digwyddiadau hyn eto i daro adre’n iawn,” meddai Andrew R T Davies, “ond rydyn ni’n meddwl ac yn gweddïo tros bawb sydd wedi cael eu dal yng nghanol yr ymosodiad hwn ar ein democratiaeth.

“Ar adegau fel hyn, mi gawn ein hatgoffa o ddewrder y gwasanaethau brys, a’r rheiny sy’n mentro eu bywydau eu hunain er mwyn gwarchod bywydau pobol eraill.

“Unwaith y bydd y braw cynta’n cilio, fe fydd yn rhaid i ni ddod o hyd i’r cryfder sydd ei angen i barhau i ymladd er mwyn cael gwared â’r drygioni yma o’r byd,” meddai Andrew R T Davies.