Siambr Cynulliad Cymru (Llun: Keith Edkins)
Mae “camau priodol” wedi’u cymryd ym Mae Caerdydd, yn dilyn yr ymosodiad brawychol ar Balas San Steffan yn Llundain, meddai nodyn esboniadol gan y Llywydd at yr aelodau.
.@yLlywydd wedi dweud wrth Aelodau bod ‘camau priodol’ wedi’u cymryd dros ddiogelwch yn y Cynulliad yn dilyn digwyddiad San Steffan.
Fe fydd y Cynulliad ym Mae Caerdydd yn bwrw ymlaen â’i fusnes “yn ôl yr arfer” yfory yn dilyn ymosodiad brawychol Llundain, meddai Elin Jones wedyn.
Mae mwy o heddlu nag arfer yng Nghaerdydd yn dilyn y digwyddiad “rhag ofn”.
Mae Carwyn Jones, y Prif Weinidog, hefyd wedi sôn am y “delweddau anghyfforddus sy’n dod o San Steffan y prynhawn yma”.
“Mae hwn yn ymosodiad ofnadwy ar galon ein democratiaeth,” meddai Carwyn Jones wedyn, “ac rydyn ni’n meddwl am bawb sydd wedi’u heffeithio.”
Delweddau ofnadwy o San Steffan. Mae hwn yn ymosodiad erchyll ar ein democratiaeth. Mae ein meddyliau gyda’r rhai sydd wedi’i effeithio.
— Carwyn Jones (@fmwales) March 22, 2017