Francois Filon - mae ei wraig, Penelope, yn dod o'r Fenni (Llun: Peter Macdiarmid/PA Wire)
Mae’r Ffrancwr sy’n awyddus i fod yn arlywydd nesa’ ei wlad, yn gorfod amddiffyn taliadau a wnaed i’w Gymraes o wraig o bwrs y senedd.
Mae Francois Fillon yn dweud i’w wraig, Penelope, sy’n hanu o’r Fenni, ennill yr 500,000 ewro (£427,000) yn deg trwy weithio fel cynorthwy-ydd seneddol i’w gwr dros gyfnod o wyth mlynedd.
Ond mae adroddiadau yn y wasg Ffrengig yn honni bod slipiau talu Penelope Fillon yn dangos bod y gwleidydd wedi bod yn talu ei wraig yn uniongyrchol rhwng 1998 ac 2002, pan oedd o’n cynrychioli rhanbarth Sarthe.
Pan ddaeth Francois Fillon yn weinidog yn llywodraeth Jacque Chirac yn 1998, fe ddaeth ei wraig yn gynorthwy-ydd i Marc Joulaud, y dyn a olynodd ei gwr yn senedd Ffrainc. Ac yn ystod y cyfnod hwn y mae adroddiadau papur newydd yn dweud yr aeth ei chyflog i fyny’n sylweddol, a’i bod yn ennill rhwng 6,000 a 7,900 ewro y mis, cyn treth.
Mae adroddiadau hefyd yn dweud ei bod wedi’i hail-gyflogi gan ei gwr am beth bynnag chwe mis yn 2012, pan ddaeth Francois Fillon yn ddeddfwr ym Mharis.
Dydi hi ddim yn anghyfreithlon i ddeddfwyr yn Ffrainc i gyflogi eu perthnasau, ar yr amod eu bod nhw’n gwneud gwaith go iawn.