Am 7 o’r gloch, nos Fercher, Rhagfyr 6, 1916, fe gafodd David Lloyd George ei wahodd i ffurfio llywodraeth glymblaid yn San Steffan, y Cymro Cymraeg cynta’ i ddod yn Brif Weinidog gwledydd Prydain.

Roedd hi’n 7.30 o’r gloch nos Iau, Rhagfyr 7, 1916, arno’n gwneud y daith i Balas Buckingham i gusanu llaw’r Brenin a dechrau ar ei waith yn swyddogol.

Fe ddaeth David Lloyd George yn Brif Weinidog i olynu H H Asquith – y dyn a ddisgrifiwyd ganddo fel “gweinidog â dewrder, doeth a chadarn”. Ond, wrth ddadlau nad oedd y dyn hwnnw’n addas i barhau i arwain erbyn ail flwyddyn y Rhyfel Mawr, roedd y ‘Dewin’ o Lanystumdwy o’r farn mai ef ei hunan oedd fwya’ addas i wneud y gwaith hwnnw.

“Mae angen i Brif Weinidog gael y weledigaeth, y dychymyg a’r blaengaredd i ennill y rhyfel,” meddai Lloyd George ar y pryd.

Llinell amser 

Tachwedd 4, 1916 Lloyd George yn penderfynu bod angen “newid strwythur” awdurdod gwledydd Prydain

Tachwedd 18, 1916 Max Aitken, Andrew Bonar Law a Lloyd George yn penderfynu bwrw ymlaen â’r diwygio

Tachwedd 25, 1916 Max Aitken, Andrew Bonar Law, Edward Carson a Lloyd George yn cynnig datganiad i Asquith

Tachwedd 26, 1916 H H Asquith, y Prif Weinidog, yn gwrthod y datganiad

Rhagfyr 2 H H Asquith yn sefydlu pwyllgor rhyfel, annibynnol o’r cabinet

Rhagfyr 4 Papur newydd The Times yn ymosod ar H H Asquith ac yn cyhoeddi manylion ynglŷn a’r pwyllgor rhyfel

Rhagfyr 5 H H Asquith yn ymddiswyddo

Cabinet cynta’ Lloyd George 

Canghellor y Trysorlys cabinet mis Rhagfyr oedd Andrew Bonar Law; yr Arglwydd Finlay oedd yr Arglwydd Ganghellor; gydag Arthur Balfour yn Ysgrifennydd Tramor.

Syr George Cave oedd yr Ysgrifennydd Cartref; Syr Edward Carson yn gyfrifol am y Llynges; Christopher Addison yn Weinidog Iechyd; a Rowland Prothero yn Gadeirydd y Bwrdd Amaeth a Physgodfeydd. Herbert Fisher oedd cadeirydd y Bwrdd Addysg; Austen Chamberlain yn Ysgrifennydd Gwladol India; Henry Duke yn Brif Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon; a’r Arglwydd Beaverbrook yn Weinidog Gwybodaeth.

Neville Chamberlain oedd y Gweinidog Gwasanaeth Cenedaethol; George Nicoll Barnes yn Weinidog Pensiynau; a Robert Munro yn Ysgrifennydd yr Alban.