John Whittingdale
Mae’r cyn-Ysgrifennydd Diwylliant yn San Steffan, John Whittingdale, wedi rhybuddio’r llywodraeth rhag cyflwyno sancsiynau ar bapurau newydd a fyddai’n golygu bod yn rhaid iddyn nhw dalu costau enllib mewn achosion y maen nhw’n eu hennill.
Fe ddaeth ei alwad wrth i’r corff sydd wedi ei sefydlu i oruchwylio trefn newydd o reoleiddio papurau newydd, Impress, ddechrau ar ei daith.
Mae Impress yn ceisio cael cefnogaeth ffurfiol gan Banel Cydnabyddiaeth y Wasg (y PRP), a gafodd ei sefydlu yn sgil Ymgynghoriad Leveson i safonau’r wasg. Pe bai Impress yn llwyddiannus, fe allai’r diwydiant wynebu costau mawr bob tro y maen nhw’n cael eu siwio.
“Os ydach chi’n dod â’r sancsiynau yma i fod, rydach chi’n mynd i gosbi pob papur newydd ledled y wlad,” meddai John Whittingdale ar raglen Today ar Radio 4 heddiw.
“Os ydach chi’n dweud wrth rywun, ‘oni bai eich bod chi’n ymuno â’r corff yma, rydach chi’n debygol o wynebu miliynau o bunnoedd o gostau, hyd yn oed os ydach chi’n ennill eich achos’, dydi hynny ddim yn unrhyw fath o anogaeth.
“Dydi gorfodi costau ar bapurau newydd, hyd yn oed os ydyn nhw’n ennill achos, ddim yn iawn,” meddai wedyn.