Dydi Dafydd Elis-Thomas ddim eisiau bod yn arweinydd Plaid Cymru eto, meddai, er iddo geisio am y swydd yn 2012 yn erbyn Leanne Wood ac Elin Jones.
Fe fu’r Aelod Cynulliad, sydd hefyd yn Arglwydd yn yr ail dŷ yn San Steffan, yn arwain Plaid Cymru rhwng 1984 a 1991.
Ond mewn cyfweliad arbennig cyn iddo gyrraedd ei 70 oed ddydd Mawrth nesa’, Hydref 18, mae Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd, yn awgrymu bod angen hyrwyddo’r Gymraeg yn hytrach na’i rheoleiddio drwy Safonau’r Gymraeg, gan ddweud mai’r Cyfrifiad yw’r “mesur mwya’ aneffeithiol” o gyfri’ nifer y siaradwyr.
“Edrych eto” ar ddwyieithrwydd
Ond mae ganddo awch i “wneud un neu ddau o bethau” eto yn y Cynulliad meddai, sy’n cynnwys “edrych eto ar y ffordd ydan ni [y Cynulliad] wedi deddfu ynglŷn â dwyieithrwydd yng Nghymru”.
“Mae gynnon ni yma yn y Cynulliad Cenedlaethol Ddeddf Ieithoedd Swyddogol, does gynnon ni ddim o’r fath beth yng Nghymru’n gyffredinol,” meddai Dafydd Elis-Thomas.
“… Fe wnaethon ni fethu’r tro diwethaf a liciwn i fynd yn ôl i fan ‘na os yn bosib, ond rhaid i mi drafod hynny efo Gweinidog yr Iaith Gymraeg, fy hen gyfaill Alun Davies.”
Roedd Dafydd Elis-Thomas yn mynnu nad “brwydr” yw sicrhau parhad yr iaith ond “datblygiad cyfansoddiadol o egluro’n well be ‘da ni’n ceisio ei wneud”.
“Dw i’n meddwl bod ‘na ewyllys da tuag at ddwyieithrwydd yn gyffredinol drwy Gymru, mae hynny’n amlwg o be sy’n digwydd efo addysg ddwyieithog,” ychwanegodd.
“Mae’r llywodraeth yma wedi gwneud gwaith arbennig yn y maes yma, a dw i’n meddwl bod eisiau i ni annog nhw i edrych eto.
“Wedi’r cyfan, Plaid Cymru wnaeth greu Comisiynydd Iaith a chreu’r rheolau newydd yma, y safonau honedig yma.
“Hyrwyddo, hyrwyddo, hyrwyddo”
“… Mae’n na sôn rŵan am gael asiantaeth hyrwyddo’r iaith a dyna be oeddwn ni’n trio ei wneud rhwng ’93 a ’99 [fel Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg]… a hyrwyddo, hyrwyddo a hyrwyddo oedd ein neges ni, nid rheoleiddio, rheoleiddio, rheoleiddio.”
“Does gen i ddim diddordeb mewn targedau, dw i wedi rhoi’r gorau i dargedau ers blynyddoedd, ro’n i’n gobeithio bod y Llywodraeth wedi,” meddai am darged Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dywedodd hefyd mai’r Cyfrifiad yw’r “mesur mwyaf aneffeithiol y byddech chi eisiau i fesur capasiti ieithyddol pobol ac awydd ieithyddol pobol.”
Mae modd darllen mwy gan Dafydd Elis-Thomas yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg, ac mae modd gwrando ar ei gyfweliad yn y clip yma: