Richard Pentreath
Mae’r heddlu wedi apelio o’r newydd am wybodaeth am ddyn sydd wedi’i amau o gynnau tân bwriadol ym Mhrestatyn ar ôl methu ag ymddangos yn y llys i wynebu cyhuddiadau o droseddau rhyw hanesyddol.
Mae Richard Pentreath – sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Hilary Clifford Thomas – wedi’i amau o gynnau’r tân yn oriau mân bore Iau, Hydref 6.
Methodd y dyn 63 oed ag ymddangos gerbron Llys y Goron Woolwich yn Llundain ar Hydref 3. Fe’i cafwyd yn euog yn ei absenoldeb, ac fe gafodd gwarant ar gyfer ei arestio ei chyhoeddi.
Mae lle i gredu iddo adael Prestatyn ar drên ychydig ar ôl y tân a dyw e ddim wedi cael ei weld ers Hydref 6 pan oedd e yng ngorsaf drenau Crewe.
Mae ganddo fe gysylltiadau ag ardaloedd Llundain, Caerloyw a Manceinion.
Fe gaiff ei ddisgrifio fel dyn 6 troedfedd o daldra ac o gorffolaeth denau. Mae ganddo fe wallt du a barf llwyd ac mae’n gwisgo sbectol. Pan aeth ar goll, roedd e’n gwisgo het dywyll, siaced frown a throwsus tywyll.
Dywedodd Heddlu’r Gogledd mewn datganiad ei fod yn ddibynnol ar inswlin a’u bod yn gofidio am ei ddiogelwch.