Fe fydd gweithwyr a gwirfoddolwyr y Mudiad Meithrin yn cael eu gwobrwyo am y tro cyntaf erioed mewn seremoni arbennig yn Aberystwyth ar Hydref 21.
Bydd y seremoni yng ngwesty’r Marine yn cael ei harwain gan y cyflwynydd teledu Arfon Haines Davies.
Cafodd yr enwebiadau ar gyfer y gwobrau eu hagor ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni ym mis Awst, a’r rhestr fer ei llunio fis diwetha’ yn cynnwys tri enw o bob un o naw categori: Arweinydd, Cynorthwy-ydd, Cynhwysiant, Byw’n Iach, Gwirfoddolwr, Awyr Agored, Dewin a Doti, Darpariaeth a Phartneriaethau.
Haeddu cydnabyddiaeth
Bydd gwobr yn cael ei rhoi i’r holl enillwyr, a phob un sydd ar y rhestr fer yn cael tystysgrif i’w harddangos yn eu meithrinfeydd.
“Roedden ni’n gobeithio y byddai pobol yn manteisio ar y cyfle i enwebu cylch lleol neu feithrinfa sy’n haeddu cydnabyddiaeth,” meddai Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Gwenllian Lansdown Davies.
“Rydyn ni wedi gwirioni ein bod wedi derbyn cannoedd o enwebiadau! Mae’n ffordd hyfryd i staff a gwirfoddolwyr gael eu cydnabod trwy gael eu henwebu gan rieni’r plant sy’n eu gofal.”
Yr enwebiadau
Byw’n Iach: Cylch Meithrin Llanfair Caereinion; Cylch Meithrin Ffrindiau Bach Tegryn Aberporth; Cylch Meithrin Wattstown ac Ynyshir
Awyr Agored: Cylch Meithrin Ynysybwl; Cylch Meithrin Croesgoch; Cylch Meithrin Nantdyrys
Gwirfoddolwr: Mrs Meinir Jones (Cylch Meithrin Talsarnau); Rhodri Sion (Cylch Meithrin Waunfawr); Sarah Louise Spinks (Cylch Meithrin Ti a Fi Y Fenni)
Cynhwysiant: Cylch Meithrin Hirael; Cylch Meithrin Nantdyrys; Cylch Meithrin Thomastown
Dewin a Doti: Cylch Meithrin Glantwymyn; Cylch Meithrin Thomastown; Cylch Meithrin Hywel Dda
Partneriaethau: Cylch Meithrin Dolgellau; Cylch Meithrin Pont-y-pŵl; Cylch Meithrin Glantwymyn
Darpariaethau: Cylch Meithrin Mwy Bro Alun; Cylch Meithrin Talgarreg; Cylch Meithrin Hill Street
Cynorthwy-ydd: Edna Rowlands (Sarnau a Llandderfel); Sophie (Cylch Meithrin Caerau); Louise Thomas (Cylch Meithrin Llangadog)
Arweinydd: Gail McGrane (Cylch Meithrin Hill Street); Sally Thomas (Cylch Meithrin Cemaes); Jayne Williams (Cylch Meithrin Hywel Dda)