Mae pob democratiaeth angen ei hysgwyd i’w seiliau yn achlysurol, meddai Aled G Jôb…
Y dybiaeth gyffredinol ymhlith y gwybodusion yng Nghymru yw bod canlyniad y refferendwm ddydd Iau diwethaf yn drychineb cenedlaethol.
Ond fel un a bleidleisiodd dros Aros (er mwyn mynegi fy hunaniaeth Gymreig mewn digwyddiad oedd i bob pwrpas yn refferendwm ar annibyniaeth i Loegr), mi roeddwn i hefyd yn gobeithio am bleidlais i adael gan weld hynny fel modd o chwyldroi’r tirlun gwleidyddol ac economaidd yn yr ynysoedd hyn yn llwyr.
Credaf ein bod eisoes yn gweld hynny ar waith gydag ymddiswyddiad y Prif Weinidog, David Cameron, aelodau’r Blaid Lafur yn rhwygo’u hunain yn ddarnau mewn rhyfel cartref sydd i’w weld yn amhosib i’w ddatrys, Yr Alban yn paratoi i drefnu ail refferendwm ar annibyniaeth, a Phlaid Cymru hwythau wedi eu sbarduno’n ddigonol i ddatgan bod rhaid prysuro’r broses o annibyniaeth i Gymru yn dilyn canlyniad y refferendwm.
‘Math o ddemocratiaeth newydd’
Gyda’r dosbarth gwleidyddol cyfan wedi cael cymaint o ergyd yn dilyn y bleidlais, mae lle i obeithio bod math o ddemocratiaeth newydd yn dechrau ymffurfio wrth i’r newidiadau hyn fynd rhagddynt.
Diau y bydd y broses hon yn flêr, yn gynhennus ac yn gymhleth, ond eto mae’n anodd osgoi’r synnwyr bod hanes yn cael ei greu o flaen ein llygaid ar hyn o bryd.
Wedi dweud hynny, dwi’n barod iawn i gydnabod rhan allweddol papurau asgell dde Lloegr yn y bleidlais dros Adael. Bu’r papurau hyn (sydd hefyd yn gwerthu’n dda yma yng Nghymru) yn pedlera propaganda gwrth-Ewropeaidd am flynyddoedd mawr cyn y bleidlais hon ac yn ddiamau fe welwyd gwaddol hyn oll ddydd Iau.
Ond rhaid cofio hefyd fod holl rym y Sefydliad Prydeinig yn gefn i’r bleidlais Aros, ynghyd â byd busnes, y banciau mawr a’r byd corfforaethol, a’r rheiny wedi ceisio dychryn pobl o’u crwyn gyda’u rhybuddion a’u bygythiadau am yr armagedon economaidd a chymdeithasol a fyddai’n digwydd pe bai Gadael yn ennill. A yw’n syndod mewn gwirionedd mai’r bancwyr Goldman Sachs, a fu’n gymaint rhan o’r gwasgu ariannol dieflig ar bobl Gwlad Groeg, oedd yn ariannu’r cwbl?
‘Grymoedd tywyll’
Ac mi roedd yna rymoedd hyd yn oed tywyllach yn llechu yn y cysgodion. Roedd y modd y defnyddiwyd llofruddiaeth yr AS Jo Cox gan yr ochr Aros er eu dibenion gwleidyddol eu hunain yn gwbl droëdig. Roedd y lluniau teledu gofalus hynny o’r Aelodau Seneddol yn San Steffan gyda phawb ohonynt yn gwisgo blodyn gwyn i gofio am yr Aelod Seneddol, yn bropaganda o’r math gwaethaf.
Roedd y lluniau yn gorchymyn y gwylwyr: “Gwrandewch arnom ni, ein harbenigedd ni, ein doethineb ni, a’n hawdurdod ni yn y ddadl hon rhagor na’ch profiadau byw eich hunain.” Yn rhyfeddol, dewisodd pobl gyffredin ledled gwledydd Prydain i wrthsefyll yr holl fygythiadau a’r holl bwysau seicolegol hyn er mwyn dweud: “Gall pethau ddim aros fel hyn. Mae’n rhaid i bethau newid.”
‘Cri o’r enaid am newid’
Mae’n eironig iawn mewn ffordd mai David Cameron o bawb a roddodd y cyfle euraidd hwn i’r etholwyr fynegi eu llais am unwaith a dweud eu dweud am gyfeiriad ein cymdeithas dros y genhedlaeth ddiwethaf ble mae cymaint o bobl a chymaint o gymunedau wedi cael eu gadael ar ôl mewn modd mor greulon ac annheg.
Roedd y refferendwm yn gyfle i bobl fynegi protest mewn dwy ffordd gysylltiedig. Mi roedd o’n gyfle iddynt fynegi anfodlonrwydd gydag Undeb Ewropeaidd pell ac annemocrataidd, a phrotestio ar yr un pryd am yr un meddylfryd neo-ryddfrydol sydd wedi dinistrio cymaint o fywydau a chymunedau yma dros y blynyddoedd diwethaf.
Mi roedd o’n gri o’r enaid am newid. Ac mae’n eironi hanesyddol bod ymateb pleidleiswyr Llafur wedi bod mor allweddol ym muddugoliaeth yr ochr Adael. Oherwydd fe ellir dadlau bod yr ymchwydd hwn dros newid yn dyddio nôl i’r holl obeithion hynny a ddrylliwyd yn dilyn ethol Tony Blair yn Brif Weinidog yn 1997.
Etholwyd Blair ar fandad i newid gwledydd Prydain yn sylfaenol, ond yn hytrach na newid, yr hyn a welwyd oedd gwleidyddiaeth a ddilynodd yr un trywydd neo-ryddfrydol a nodweddodd y Torïaid am y 18 mlynedd flaenorol. Bu’r rhwystredigaeth hwn yn ffrwtian dan yr wyneb am yn agos i 20 mlynedd. Ddydd Iau diwethaf, fe ffrwydrodd yr anniddigrwydd hwn i’r golwg mewn modd na ragwelwyd o gwbl gan ein harweinwyr gwleidyddol na’n pyndits cyfryngol.
‘Mwy creadigol a mentrus’
Ers blynyddoedd mawr, agwedd “managerial” fu’n nodweddu pleidiau gwleidyddol o bob math, wrth iddynt ddefnyddio’r ddibyniaeth ar yr Undeb Ewropeaidd er mwyn golchi’u dwylo o unrhyw gyfrifoldeb i dorri eu cwys eu hunain mewn gwirionedd. Bellach, gyda Phrydain y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, bydd dim esgus gan wleidyddion rhag bod yn fwy creadigol ac yn fwy mentrus wrth geisio clust yr etholwyr.
Yn y sefyllfa newydd hon, be sydd i rwystro Llywodraeth Cymru er enghraifft rhag gwladoli’r rheilffyrdd er mwyn sicrhau gwell gwasanaeth i’r cyhoedd yma yng Nghymru ac annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus?
Rhaid cofio, wrth gwrs, ei bod hi’n fwy na phosib y caiff y buddugwyr eu siomi’n arw gyda rhai o’r addewidion a wnaed ynghylch faint o arian a gaiff ei ail-gyfeirio i’r Gwasanaeth Iechyd wrth adael Ewrop ac yn wir faint o gyfyngu sy’n bosib ar nifer y mewnfudwyr i wledydd Prydain.
Dydi hi ddim yn amhosib chwaith y bydd y Sefydliad Prydeinig yn ceisio ffyrdd o anwybyddu’r bleidlais ei hun. Ond mewn amgylchiadau fel hyn, buan iawn y byddai’r wasg adain dde yn troi ar arweinwyr yr ochr Adael ac fe fyddai’r anniddigrwydd cyhoeddus dilynol yn golygu y byddai’r Lloegr Annibynnol newydd yn wlad “fractious” iawn ac yn le y byddai pob math o wleidyddiaeth newydd ac anghysurus o bosib yn dod i’r wyneb.
Er yr anhrefn posib, byddai hyn hefyd yn beth daionus yn ei hanfod gan y byddai’n gorfodi pobl Lloegr i wynebu’r realiti am eu gwlad am y tro cyntaf erioed o bosib. Byddai’n golygu wynebu a chydnabod y rhaniadau mawr sy’n bodoli ynddi, yr annhegwch sylfaenol sydd wedi ei nodweddu cyhyd a’r angen sylfaenol i ail-ddychmygu eu heconomi y tu hwnt i’r ddibyniaeth unllygeidiog ar ddinas Llundain er mwyn ceisio cyfannu eu gwlad.
‘Hunaniaeth’
Mae yna gyfleoedd mawr i’r Mudiad Cenedlaethol yng Nghymru yn dilyn y refferendwm a’r holl ddatblygiadau a grybwyllwyd uchod. Yn y lle cyntaf, dangosodd y refferendwm bod diwylliant yn gallu bod yn drech na’r economi. Roedd pwyslais yr ochr Adael ar warchod hunaniaeth a chadw cymunedau rhag cael eu newid y tu hwnt i bob rheswm yn elfen gwbl greiddiol yn y ddadl.
Beth bynnag yw barn dyn am fewnfudo, mae’n ddiymwad bod lefelau mewnfudo wedi gweddnewid llawer o gymunedau yn Lloegr a phobl yn teimlo, yn gam neu’n gymwys, bod eu hunaniaeth dan warchae oherwydd hynny. Mae’n wir i ddweud hefyd na chafodd y lefelau hyn o fewnfudo erioed eu trafod yn iawn gyda’r cyhoedd na’u crybwyll mewn unrhyw faniffesto gan un o’r pleidiau mewn etholiadau dros y blynyddoedd diwethaf a bod pobl felly wedi mynd yn fwy sensitif fyth am y bygythiad i’w hunaniaeth.
Onid yw hyn yn rhoi cyfle o’r newydd i’r mudiad cenedlaethol ddefnyddio dadleuon tebyg wrth gyflwyno dadl dros gynnal hunaniaeth Cymru, yn enwedig yn yr ychydig ardaloedd Cymraeg sydd yn weddill bellach? Yr ofn mawr gyda hyn dros y blynyddoedd diwethaf oedd y cyhuddiad o “hiliaeth”, ond gyda thrafodaeth am effeithiau mewnfudo bellach yn fater priflif yn Lloegr, a mwy o wleidyddion yn barod i gydnabod nad hiliaeth yw mynegi pryder am newid natur cymunedau gwreiddiedig, siawns bod modd trafod hyn yn aeddfed yng Nghymru erbyn hyn hefyd.
‘Canoli grym ymhellach’
Mae cyfle’n codi hefyd yn sgil y pwyslais mawr ar ddemocratiaeth a welwyd yn ystod y refferendwm. Yn fy marn i, roedd Boris Johnson a Michael Gove yn llygad eu lle wrth feirniadu natur anatebol ac annemocrataidd yr Undeb Ewropeaidd, a’u cytgan cyson ar geisio dychwelyd democratiaeth mor agos â phosib at bobl Gwledydd Prydain.
Un o hanfodion democratiaeth erioed fu’r egwyddor y dylai pobl ethol eu rheolwyr a chael y cyfle i’w disodli os nad ydynt yn cyflawni eu haddewidion i bobl. Fy ofn mawr i gyda phleidlais Aros oedd y byddai’n cael ei weld gan benaethiaid yr Undeb Ewropeaidd fel mandad i ganoli grym hyd yn oed ymhellach yn nwylo comisiynwyr anetholedig ac y byddai wedyn bron yn amhosib rhwystro’r math o un wladwriaeth Ewropeaidd a fyddai’n sylfaenol wrthwynebus i hunaniaethau cenedlaethol led-led y cyfandir.
Gellid defnyddio dadleuon Johnson a Gove am ddychwelyd democratiaeth mor agos â phosib i fywydau pobl wrth gyflwyno’r achos dros drosglwyddo grymoedd a ddaw yn ôl o Frwsel i Gymru yn ogystal â grymoedd eraill a ddylai gael eu datganoli i Gymru. Pe bai unrhyw awydd gan Lundain i lyncu’r grymoedd hyn neu ddal gafael ar bwerau eraill, dylid ail-adrodd sloganau Gove a Johnson ar bob cyfle posib er mwyn dangos yr anghysondeb sylfaenol sy’n perthyn i’w dadl.
‘Cymru Annibynnol’
Beth bynnag fydd union natur gwledydd Prydain gyda’r Undeb Ewropeaidd dros y blynyddoedd nesaf, (ac mae’n amlwg y bydd math o berthynas yn bodoli er gwaethaf y bleidlais dros adael) rhagwelaf y bydd y syniad o Gymru Annibynnol yn tyfu mewn poblogrwydd, ynghanol y flux gwleidyddol presennol, boed hynny mewn math o gonffederasiwn gyda’r Alban a Lloegr, neu o fewn math o Ewrop ddiwygiedig.
I raddau gellid dadlau bod yna gynulleidfa bosib ar gyfer y neges hon eisoes yn bodoli gyda’r 48% o bobl Cymru a bleidleisiodd dros aros ddydd Iau diwethaf. Er mwyn apelio at y garfan hon, nid digon bellach yw dibynnu ar ein plaid genedlaethol, Plaid Cymru.
Na, bydd rhaid adeiladu mudiad torfol a phoblogaidd i ddadlau dros yr achos, sy’n barod i gyflwyno’r weledigaeth i bobl Cymru, un wrth un, cymuned wrth gymuned, ardal wrth ardal led-led ein gwlad. Gobeithio y bydd y rali Cymru Rydd sydd wedi ei threfnu ar gyfer y Sadwrn hwn (Gorffennaf 2) ar y Maes yng Nghaernarfon yn gam tuag at ddechrau adeiladu’r mudiad poblogaidd hwn.