Mae pleidiau gwleidyddol Cymru wedi dymuno’n dda i dimau pêl-droed a rygbi’r wlad ar drothwy diwrnod mawr i’r ddwy gamp yng Nghymru.

Tra bydd y tîm rygbi cenedlaethol yn herio Seland Newydd yn Auckland, fe fydd y tîm pêl-droed yn dechrau ar eu hymgyrch Ewro 2016 yn Bordeaux wrth iddyn nhw wynebu Slofacia.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood y byddai ‘Sadwrn Sblennydd’ yn “ddiwrnod i’w gofio”.

Ar ôl i dîm pêl-droed Cymru gymhwyso ar gyfer Ewro 2016, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:  “Mae yna bositifrwydd a chyffro go iawn ledled Cymru am yr hyn sydd wedi cael ei gyflawni ac mae’r bwrlwm yn amlwg ymhlith y chwaraewyr hefyd.

“Bydd llygaid y byd ar Ffrainc ym mis Mehefin ac mae’n fy ngwneud i a miliynau o bobol eraill, rwy’n gwybod, yn eithriadol o falch o wybod y bydd coch Cymru’n amlwg iawn yno. Llongyfarchiadau a phob lwc.”

Wrth dalu teyrnged i’r garfan sydd yn Ffrainc ar gyfer prif gystadleuaeth ryngwladol Ewrop, ychwanegodd: “…Nid yn unig y mae Chris Coleman a’i dîm wedi codi calon y genedl gyfan, ond maent wedi creu hanes ac wedi gwneud yn siŵr fod y byd pêl-droed yn talu sylw i’n gwlad”.

“Mae’r tîm wedi ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobl ifanc i gymryd at bêl-droed gan fod ganddynt yn awr res o esiamplau i ymgyrraedd atynt a cheisio eu dynwared. Ac y maent wedi talu’n ôl am deyrngarwch llawer fu’n gefnogwyr ers amser maith sydd yn awr yn gallu cefnogi eu tîm mewn pencampwriaeth o bwys am y tro cyntaf yn eu bywydau.”

‘Balchder’

Ychwanegodd llefarydd Twristiaeth a Chwaraeon Plaid Cymru, Neil McEvoy: “Rwy’n dymuno pob lwc i’n timau cenedlaethol wrth iddynt baratoi am eu gemau mawr yfory.

“Bydd gan ddilynwyr y campau yng Nghymru haf  arbennig o chwaraeon o’u blaenau, ac yr wyf i’n edrych ymlaen at gefnogi ein timau bob cam o’r ffordd.

“Nid yn unig y mae camp hanesyddol y tîm pêl-droed yn mynd drwodd i un o’r prif bencampwriaethau yn llwyddiant ysgubol i bêl-droed yng Nghymru, ond y mae hefyd yn ddigwyddiad mawr yn hanes chwaraeon yng Nghymru.

“Bu llwyddiant y chwaraewyr, y rheolwr a Chymdeithas Pêl-droed Cymru yn wych, a ’ngobaith i yw y byddant yn mynd i Ffrainc, yn chwarae pêl-droed gyda gwên ar eu hwynebau, ac yn ennyn balchder ynom i gyd.”