Fe fydd tîm criced Morgannwg yn mynd am hat-tric o fuddugoliaethau wrth iddyn nhw deithio i Fryste i herio Swydd Gaerloyw yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast nos Wener.
Mae’r prif hyfforddwr wedi enwi carfan o 16 o chwaraewyr, sy’n cynnwys y bowliwr cyflym o Dde Affrica, Dale Steyn.
Mae Morgannwg eisoes wedi curo Swydd Gaerloyw yng nghystadleuaeth 50 pelawd Royal London yr wythnos hon, ac fe guron nhw Siarcod Swydd Sussex yn y gystadleuaeth honno yng Nghaerdydd nos Fercher.
Hefyd wedi’i gynnwys yng ngharfan Morgannwg mae’r Iseldirwr Timm van der Gugten, a gafodd seibiant nos Fercher.
Mae disgwyl i’r capten Jacques Rudolph fod yn holliach ar ôl anafu ei fraich nos Lun.
Mae Morgannwg wedi ennill pedair allan o’u pum gêm undydd diwethaf.
Carfan Swydd Gaerloyw: M Klinger (capten), H Marshall, I Cockbain, C Dent, B Howell, J Taylor, G Roderick, T Smith, K Noema-Barnett, G Van Buuren, L Norwell, M Taylor, C Miles, A Tye
Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), D Lloyd, C Ingram, A Donald, C Cooke, C Meschede, G Wagg, A Salter, D Steyn, T van der Gugten, M Hogan, D Cosker, M Wallace, N Selman, J Kettleborough, D Penrhyn-Jones