Faletau
Ar drothwy gêm gynta’r gyfres rhwng Seland Newydd a Chymru yn Auckland, mae capten tîm rygbi’r Crysau Duon, Kieran Read wedi dweud mai ei wrthwynebydd Taulupe Faletau fydd prif arf Cymru.
Dydy Cymry ddim wedi curo’r Crysau Duon ers 63 o flynyddoedd, ac fe fydd capten newydd Seland Newydd yn gobeithio bod y record honno’n parhau.
Read sydd yng ngofal y tîm ar y cae yn dilyn ymddeoliad un o fawrion y gêm, y blaenasgellwr Richie McCaw.
Hon fydd gêm gyntaf Seland Newydd ers iddyn nhw godi tlws Cwpan Rygbi’r Byd yn Twickenham saith mis yn ôl.
Dywedodd Read: “Mae’r bois yn barod ac yn ysu i fynd allan. Fe fu’n gyfnod hir – pythefnos – o baratoi i ni a nawr dyn ni ddim yn gallu aros.
“Mae gêm Cymru wedi newid, yn sicr, ac mae ganddyn nhw well sgiliau efallai na phan ddes i i mewn gyntaf. Mae eu gêm naturiol yn herfeiddiol ac yn gorfforol ac yn ymosodol, felly dyna ry’n ni fwy na thebyg yn credu fydd yn digwydd.
“Mae Faletau yn chwaraewr gwych, mae e’n gryf ac fe fydd e’n ddyn allweddol iddyn nhw.
“Mae ganddo fe lu o brofiad nawr i’r Cymry ac mae e’n gludwr mawr o’r bêl iddyn nhw – mae e’n dwlu ar fynd â’r bêl i fyny oddi ar gefn y sgrym.”
Ond er mwyn sicrhau buddugoliaeth, byddai’n rhaid i Gymru ddod â rhediad di-guro o 38 o gemau i ben i Seland Newydd, sydd heb golli yn Auckland ers 1994.
Yn y cyfamser, mae hyfforddwr cicio Cymru, Neil Jenkins wedi dweud mai wynebu Seland Newydd yw’r “prawf mwyaf oll” i Gymru.
“Ry’n ni’n gwybod pa mor dda yw record Seland Newydd wrth chwarae gartref.
“Ry’n ni wedi cael wythnos dda o ymarfer, ond fe fydd hynny’n cael ei brofi yn y gêm brawf yfory.
“Ond mae pawb yn edrych ymlaen at chwarae eto fory. Does dim un prawf sy’n fwy na chwarae yn erbyn Seland Newydd yn Seland Newydd.”
Y timau
Mae prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi gwneud pum newid i’r tîm i herio Seland Newydd.
Daw Gethin Jenkins a Ken Owens i mewn i’r rheng flaen yn lle Rob Evans a Scott Baldwin, sydd wedi’u cynnwys ymhlith yr eilyddion.
Mae Luke Charteris allan ac felly yn yr ail reng, fe fydd Jake Ball yn cadw cwmni i Alun Wyn Jones, sy’n ennill ei ganfed cap dros Gymru.
Mae’r capten Sam Warburton yn ôl yn y tîm ar ôl anafu ei ysgwydd ac yn cwblhau’r rheng ôl mae Faletau a Ross Moriarty, tra bod Dan Lydiate allan ag anaf. Mae blaenasgellwr y Gleision Ellis Jenkins ymhlith yr eilyddion.
Yn y canol, daw Jonathan Davies yn ôl yn bartner i Jamie Roberts, tra bod Scott Williams a Gareth Anscombe ar y fainc.
Seland Newydd: Ben Smith, Waisake Naholo, Malakai Fekitoa, Ryan Crotty, Julian Savea, Aaron Cruden, Aaron Smith; Kieran Read (capten), Sam Cane, Jerome Kaino, Brodie Retallick, Luke Romano; Owen Franks, Dane Coles, Joe Moody.
Eilyddion: Nathan Harris, Wyatt Crockett, Charlie Faumuina, Patrick Tuipulotu, Ardie Savea, TJ Perenara, Beauden Barrett, Seta Tamanivalu.
Cymru: Liam Williams, George North, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Hallam Amos, Dan Biggar, Rhys Webb, Gethin Jenkins, Ken Owens, Samson Lee, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Ross Moriarty, Sam Warburton (capten), Taulupe Faletau.
Eilyddion: Scott Baldwin, Rob Evans, Tomas Francis, Jake Ball, Ellis Jenkins, Gareth Davies, Gareth Anscombe, Scott Williams.