Mae’r byd criced wedi talu teyrnged i’r paffiwr Muhammad Ali, fu farw’n 74 oed ddydd Gwener diwethaf.
Ar ddiwrnod ei angladd heddiw, mae’r cyn-gricedwr Syr Garfield Sobers wedi cymryd rhan mewn teyrnged iddo ar gae hanesyddol Lord’s yn Llundain yn ystod y gêm ryngwladol rhwng Lloegr a Sri Lanca.
Hanner canrif yn ôl i’r wythnos hon, roedd Muhammad Ali yn ystafell newid India’r Gorllewin wrth iddyn nhw herio Lloegr ar ddiwrnod cynta’r ornest brawf.
Heddiw, fe ganodd Sobers y gloch sy’n rhybuddio’r chwaraewyr bod yr egwyl am ginio’n dirwyn i ben – mae’n draddodiad yn Lord’s bod enwogion yn cael eu gwahodd i gyflawni’r ddefod.
Cafodd lluniau o’r ymweliad yn 1966 eu dangos i’r dorf ar sgrîn fawr wrth i’r chwaraewyr gerdded allan i’r cae.
Angladd
Yn ddiweddarach heddiw, fe fydd angladd Muhammad Ali yn cael ei gynnal yn Louisville yn Kentucky.
Mae disgwyl degau o filoedd o bobol ar y strydoedd – a 18,000 yn y gwasanaeth cyhoeddus – i ffarwelio ag un o gymeriadau mwya’r byd chwaraeon.
Bydd ei arch yn cael ei gludo ar hyd strydoedd y ddinas, heibio’r cartref lle treuliodd ei blentyndod, Canolfan Ali ar gyfer Treftadaeth Affro-Americanaidd ac i lawr Muhammad Ali Boulevard.
Ymhlith y rhai a fydd yn cludo’i arch i mewn i’r gwasanaeth coffa mae’r paffiwr Lennox Lewis a’r actor Will Smith, tra bydd cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau Bill Clinton yn rhoi teyrnged.
Bydd yn cael ei gladdu ym mynwent Cave Hill yn dilyn gwasanaeth preifat.