Ciwcymbyr diniwed, neu arf peryglys?
Hefin Jones sy’n bwrw ei olwg unigryw arferol ar ddigwyddiadau’r wythnos a fu.

Pasg Hapus

Wedi i’w hymgais olaf i breifateiddio’r Gofrestrfa Tir fethu’n San Steffan, fe ymgeisiodd y Torïaid eto. A digwydd bod, roedd ryw awren cyn gwyliau’r Pasg ac nid oedd llawer o neb ar ôl i’w gwrthwynebu adeg hynny. Mae’r Gofrestrfa Tir o hyd yn berchen i’r Goron, wrth gwrs, ond bydd ei holl weithgaredd yn cael ei is-gytundebu i ddwylo preifat, effeithlon. Mae ei elw blynyddol diweddar oddeutu £100miliwn, ac roedd yn arfer myned i’r coffrau cyhoeddus, felly bydd rhyw entrepreneur yn lwcus iawn.

Gwneud popeth posib

Roedd yr Undeb Ewropeaidd yn frwd dros godi’r tariff 9% ar ddur Tseina ym mis Chwefror, ond bu i’r Ceidwadwyr atal hynny ym Mrwsel ei hun, ac yna parhau i’w atal. “Byddai hynny wedi arwain at brynwyr dur ym Mhrydain yn talu mwy am ddur,” esboniodd yr Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid, gan anghofio adio’r gair ‘Tseina’ ar y diwedd.

Croeso i’r byd

Baglodd y gorau o newyddiaduraeth Lloegr dros ei gilydd i adrodd fod cerddoriaeth roc cyn heddiw wedi ei wahardd o Ciwba, wrth ddathlu cyngerdd ‘hanesyddol’ y Rolling Stones yno’r wythnos hon. A gan nad oes arbenigwyr gwell ar Giwba mi fyddai pawb wedi eu coelio onibai i rai gofio fod Manic Street Preachers wedi chwarae yno bymtheg mlynedd yn ôl – ciw ailsgwennu ffyrnig ar y we. Mae hefyd ddyrnau o fandiau’n Havana’n chwarae cyfyrs Saesneg ers degawdau (i’r twristiaid yn bennaf). Oes posib eu bod wedi cymysgu ‘gwahardd’ am ddiffyg diddordeb? Er, pwy yn eu iawn bwyll fyddai’n gwrthod gwario i hedfan Razorlight, Limp Bizkit neu Nickelback i adlonni’r diwylliannol dlawd. Neb ond comiwnyddion gwallgof paranoid, dyna pwy.

El-pu’n ariannol

A phwy oedd yn ddigon clên i dalu $7miliwn i’r band chwarae’r gyngerdd o mor hanesyddol? Rhyw ‘gyfreithiwr’ sy’m hyd yn oed yn byw yn Ciwba o’r enw Gregory Elias. Tybed, ar wythnos mor hanesyddol pan fu i Mr President ymweld â’r ynys ystyfnig, fod rhywrai wedi gobeithio y byddai heddlu Ciwba, neu’r llywodraeth, yn ceisio atal y parti hapus am-ddim-i-bawb-ond-Gregory? Ond beth a wna Gregory ym maes y gyfraith o ddydd i ddydd? Wel, efe yw cadeirydd United Trust Curacao Experience Corporate Services sy’n arbennigo mewn ‘Risk Management, Trust and Private Wealth Services, Environmental Markets’ ayyb, ac mae hefyd yn gyfarwyddwr ar Sapiens Insurance Software Solutions. A’n gymaint o ffan o’r Rolling Stones. A Chiwba a’i phobol.

Unrhyw beth i unrhyw un

A sôn am ganu, mae sengl allan ar 21 Ebrill, ‘God Save the Queen’, tiwn wreiddiol bosib gan neb llai na Katherine Jenkins i ddathlu’r Benblwydd. Does dim modd cadarnhau a yw’r sïon fod Huw Edwards wedi erfyn i ymuno ar y canu cefndir gyda Bryn Terfel yn wir. Mae Katherine yn gefnogwraig frwd o achosion da, fel y gyngerdd fawr i godi arian i ddioddefwyr y swnami pan gofiodd grybwyll rhwng bob un cân fod ganddi albwm newydd allan. Ond tebyg mai ffwlbri yw’r honiad iddi gytuno i agor digwyddiad un o fentrau iaith de Cymru, cyn nodi mai ei ffi oedd £30,000.

Slap wrth adael

Shenaniganiaeth yn y Bae wrth i Dai Smith ymadael fel cadeirydd Cyngor Celfz a dweud wrth Huw Thomas, gohebydd y celfz i’r BBC, fod y llywodraeth yn ymddwyn yn ‘knuckle-headed and phillistine’ wrth ddelio â’r celfyddydau. Trydarodd Huw’n syth neithiwr. Cyfarfod neu ddau y bore hwn, decini.

#bargen

Rhestr glodwiw o resymau gan Lywodraeth Cymru i gyfiawnhau’r £34,000 y flwyddyn am dair blynedd (£102,000 i gyd, Carol Vorderman) a wariwyd ar gwmni o’r Unol Daleithiau i ‘drwyddedu’ 200 o’u pobl i ddefnyddio Twitter (a Facebook a Snapchat efallai – maent yn ei adael yn anelwig ar ‘gyfryngau cymdeithasol’) ac i edrych ar ôl eu cyfrineiriau fel nad oes angen eu newid hefo’r staff, a gwasanaethau arbenigol pellach. Siŵr fydd pawb yn deall, popeth yn iawn.

Llysieuyn peryglus

Buddugoliaeth arall eto fyth i’r cynllun Prevent. Y tro hwn achubwyd ein hynys ddewr oddi wrth fachgen pedair oed a gafodd ei rieni i drybini wrth ddweud ei fod newydd dynnu llun o’r hyn alwodd yn ‘cooker bomb’. Adroddwyd y digwyddiad yn syth, galwyd y fam i fewn, a methodd eu bodloni â’i hesboniad mai ‘cucumber’ oedd y bachgen yn drio’i ddweud. Tan iddi fedru dangos ffilm ar ei ffôn ohono’n gweiddi ‘cycybym’ ar y llysieuyn. Ta waeth, ni wnawn nhw na’u ‘cooker bombs’ fyth ein trechu! Na newid ‘ein’ ffordd o fyw.

Hiliol?

Gyda’r diffyg manylion gan sgriblwyr Lloegr mi gymrodd sbelen, ond daeth y rheswm pam fod y Blaid Lafur yn gwahardd pobol o’u parti wiliam niliam am ‘wrth-semitiaeth’. Beth oedd y don newydd hiliol yma’n ei wneud? Maent oll, fwy neu lai, wedi eu taflu dros ochr y llong am gyhuddo gwladwriaeth Israel o gefnogi ISIS. A fyddai cyhuddo gwledydd eraill, fel Twrci neu Saudi Arabia, yn derbyn yr un driniaeth gan y blaid?

Corddi Kiwi

Flynyddoedd maith yn ôl roedd Maori draw ym Mhen Llŷn yn achosi penbleth wrth gyfeirio at yr ‘English‘ o hyd er nad oedd erioed wedi aros yn Lloegr. Am bobl wyn Seland Newydd yr oedd yn sôn. Ac wedi’r bleidlais i gadw eu baner, bosib ei fod yn eithaf agos ati.