Alun Cairns
Beth yw eich gobeithion ar gyfer y swydd?
Wel y flaenoriaeth yw cyflawni rhai o’r mesurau a gafodd eu cyhoeddi’r wythnos ddiwethaf yn y Gyllideb, er enghraifft y Fargen Ddinesig i Gaerdydd, y cynllun i dyfu economi’r Gogledd a hefyd y pecyn i Fae Abertawe, felly mae ‘na lawer i gyflawni.
Ond yn fwy eang, dwi eisiau, gyda Guto Bebb (Dirprwy Ysgrifennydd Cymru), cyflawni i bob cymuned yng Nghymru, o’r Gogledd i’r De, yr ardaloedd gwledig, y dinasoedd a’r pentref, felly mae lot o gyfleoedd ond yn sicr, bydd ‘na sawl sialens i lawr y ffordd dwi’n siŵr.
Beth am Fesur Cymru, ble ydych chi’n bwriadu mynd â hwnnw?
Mi wnes i weithio’n agos iawn gyda Stephen Crabb, pan oedd e’n Ysgrifennydd Gwladol. Mi wnaethon ni gyhoeddi Mesur Drafft yn y lle cyntaf, a phwrpas Mesur Drafft yw cael sylwadau a chlywed pryderon rhai a dyna pam gwnaeth Stephen Crabb gyhoeddi y bydd yn gohirio’r broses ond ar yr un pryd, mi wnaeth e sôn am y cyfeiriad y byddwn yn mynd ato, a dyna’r un cyfeiriad dwi eisiau gwthio ato hefyd.
Mae’n deg dweud nad yw Stephen Crabb wedi cael y berthynas orau gyda Llywodraeth Cymru ar y mater, ydych chi’n gobeithio cael perthynas well?
Wel, dwi’n nabod Carwyn Jones (Prif Weinidog Cymru) yn dda iawn, a dwi wedi bod yn Aelod Cynulliad felly dwi’n deall y lle, a dwi’n gobeithio y bydd hwnna’n help wrth i ni drafod.
Ond dwi ddim yn derbyn bod yna berthynas anodd wedi bod rhwng Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru oherwydd mae’n rhaid i ni gofio bod steil Stephen Crabb wedi bod yn bragmatig iawn a dwi’n bwriadu dilyn yr un steil o weithio gyda chymunedau, busnesau a Llywodraeth Cymru yn yr un modd.
A beth am faterion penodol sydd wedi cael eu crybwyll ynghylch y mesur, ydych chi eisiau gweld yr Heddlu yn cael ei datganoli i Gymru er enghraifft?
Na, mae’r Heddlu wedi cael ei datganoli’n barod, yn y gogledd, y gorllewin, yn ne Cymru a Gwent.
Mae gwahaniaethau mawr yn y blaid Lafur ar y polisi yma er enghraifft, felly rydyn ni’n bwriadu adeiladu ar adroddiad Dydd Gŵyl Dewi, lle oedd ‘na gytundeb rhwng y pleidiau i gyd.
Dyna’r man cychwyn ynglŷn â’r mesur, ac yn amlwg, mi wnawn ni dal i weithio i gael cytundeb ond eto i gyd, bydd ‘na rai ardaloedd polisi na fyddwn yn cytuno arnynt, ac mae hynny’n ddigon teg.
A maes darlledu hefyd, mae dyfodol S4C wedi bod yn bwnc llosg yn ddiweddar, beth am ddatganoli darlledu i Gymru?
Na, bydden ni ddim am weld hynny, achos dydy’r diwydiant, na busnesau na’r cyhoedd ddim yn galw amdano fe.
Mae wedi bod yn benwythnos digon cythryblus i Lywodraeth San Steffan, pa mor niweidiol yw’r ffrae o fewn y blaid yn dilyn ymddiswyddiad Iain Duncan Smith?
Mae angen i ni edrych ar hwn yn y cyd-destun bod economi’r Deyrnas Unedig yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw wlad arall yn y byd datblygedig, felly mae hynny’n beth positif ofnadwy.
Ond yn well byth na hynny, mae economi Cymru yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ardal arall y tu allan i Lundain, felly oherwydd bod yr economi’n tyfu, allwn ni wneud penderfyniadau er lles pobol.
Mae welfare reform yn bwysig ofnadwy i’n cynllun economaidd. Gan ein bod ni’n codi cyflogi, gan ein bod yn torri trethi, mae hynny’n rhoi ni mewn sefyllfa llawer mwy positif nag o’r blaen.
Ond pa mor niweidiol mae’r ffrae yma wedi bod i’r Llywodraeth, i’ch plaid chi?
Gyda phob system cabinet, mae Gweinidogion weithiau’n gadael am wahanol resymau. Bydd rhaid i chi ofyn i Iain Duncan Smith am y rheswm tu ôl e’n gadael, ond y gwirionedd yw bod gwariant ar ein system budd-daliadau yn dal i godi, mae eisiau targedu fe’n well, a dyna beth dwi’n gwbl hyderus y bydd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau (Stephen Crabb) yn gwneud.
Yn dilyn y tro pedol (ar dorri budd-daliadau i bobol anabl), ble mae’r Llywodraeth yn mynd i lenwi’r twll o £4 biliwn?
Mae ‘na sawl datganiad y Gyllideb yn mynd i ddod yn y blynyddoedd sydd i ddod a bydd y rhain i gyd (y toriadau) yn cael eu hamlinellu ar yr amser cywir.
A beth am ddyfodol George Osborne fel Canghellor, oes gennych chi ffydd ynddo fe?
Yn sicr, dwi’n credu nad yw e’n derbyn hanner y clod ac y dylai wrth i’r economi drawsnewid a thyfu mor gloi. Mae wedi gwneud penderfyniadau anodd ac mae’n gwthio tuag at gynllun economaidd hirdymor, dyna beth sy’n sicrhau bod diweithdra a threthi’n cwympo.
Cyfweliad: Mared Ifan