Mae Plaid Cymru wedi dewis ei ymgeisydd seneddol yn isetholiad Ogwr ar ôl i’r Aelod Seneddol Llafur presennol, Huw Irranca-Davies, gael ei ddewis i sefyll yn etholiadau’r Cynulliad.

Abi Thomas yw ymgeisydd y blaid a fydd yn ceisio sedd mewn un o gadarnleoedd y Blaid Lafur.

Chris Elmore yw ymgeisydd Llafur, sy’n aelod o Gabinet Cyngor Sir Bro Morgannwg.

Mae Abi Thomas wedi gweithio mewn sawl prifysgol yng Nghymru ac mae ganddi gefndir mewn datblygiad busnes a marchnata.

Tair blaenoriaeth

Ei thair blaenoriaeth, meddai, yw gwella gwasanaethau lleol y Gwasanaeth Iechyd, brwydro yn erbyn newidiadau “annheg” i’r system les a gwella trafnidiaeth yn y cymoedd.

“Bydd yn fraint brwydro dros bobol Ogwr a rhoi’r llais cryfaf posib i’n cymunedau yn San Steffan,” meddai ar ôl cael ei dewis.

Tim Thomas yw ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru yn yr un etholaeth a ddywedodd fod y blaid Lafur wedi mynd yn “flinedig, yn hunanfodlon ac yn cymryd pobol yn ganiataol.”

Mae disgwyl i’r isetholiad ddigwydd ar yr un diwrnod ag etholiadau’r Cynulliad, sef 5 Mai.