Mae arolwg barn ddiweddar Redfield and Wilton yn dangos bod Llafur wedi colli cefnogaeth ar gyfer etholiad San Steffan ers i Vaughan Gething gael ei benodi’n Brif Weinidog Cymru, medd ein gohebydd gwleidyddol…

Mae’r ffigyrau yn dangos bod nifer y bobol sy’n bwriadu pleidleisio dros y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol i lawr i 40% (-9). O ganlyniad i hyn, mae’r Ceidwadwyr, Reform UK, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gweld cynnydd yn eu canrannau:

  • Llafur 40% (-9)
  • Ceidwadwyr 18% (+2)
  • Reform UK 18% (+3)
  • Plaid Cymru 14% (+4)
  • Democratiaid Rhyddfrydol 6% (+1)
  • Y Blaid Werdd 4% (-1)
  • Eraill 0% (-1)

(Arolwg Barn Redfield and Wilton: Bwriad pleidleisio San Steffan)

Er bod y gwymp wedi digwydd ar ôl i Vaughan Gething gael ei benodi’n Brif Weinidog, mae yntau wedi gweld cynnydd yn ei radd gymaradwy wedi symud i fyny o sgôr net +4 fis diwethaf, i +10 y mis yma, gyda 33% o ymatebwyr yn ei gymeradwyo a 23% yn ei anghymeradwyo.

Mi roedd Vaughan Gething yn hapus i gyfeirio at hyn yn ystod y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog fore heddiw (dydd Gwener, Ebrill 26), wrth ateb cwestiwn ynglŷn â’r rhoddion dderbyniodd o yn ystod ei ymgyrch i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru.

“Rydych yn sôn am arolygon barn. Mewn arolwg barn gafodd ei gyhoeddi ddoe, mae fy ngraddau cymaradwy wedi cynyddu dros y mis diwethaf.”

Ymysg yr arweinwyr eraill o fewn y Senedd, mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, â gradd gymaradwy net -6%, gyda Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, efo’r ganran uchaf o’r tri, ar net +13%.

Mae’n wir hefyd fod Llafur wedi cynyddu eu canran bwriad pleidleisio ar gyfer etholiad Senedd Cymru, 37% (+1), gyda Phlaid Cymru (22%) yn codi uwchlaw’r Ceidwadwyr (21%).

  • Llafur 37% (+1)
  • Plaid Cymru 22% (+1)
  • Ceidwadwyr 21% (–)
  • Reform UK 10% (-1)
  • Democratiaid Rhyddfrydol 4% (+1)
  • Y Blaid Werdd 3% (–)
  • Diddymu’r Cynulliad 3% (–)
  • Eraill 0% (-1)

(Arolwg Barn Redfield and Wilton: Bwriad Pleidleisio etholiad Senedd Cymru)

I gymharu efo’r arolygon barn ar lefel Brydeinig, maen nhw wedi dangos Llafur o gwmpas 44 pwynt ers cychwyn mis Mawrth, sydd yn cynnwys yr amser lle bu Angela Rayner o dan bwysau yn dilyn honiadau o dorri’r gyfraith etholiadol.

Er bod Vaughan Gething yn gywir yn ei safbwynt fod y ffigyrau o’r arolwg yma yn ffafriol iddo fo, mae’r gostyngiad o 9 pwynt yn arolwg bwriad pleidleisio San Steffan yn debygol o fod wedi cael ei ddylanwadu gan y ffaith fod rhan fwyaf o’r cyfryngau ers cael ei ethol yn Brif Weinidog wedi canolbwyntio ar y rhoddion ariannol dderbyniodd o gan Dauson Environmental Limited.

Yn wleidyddol, mae’r mis cyntaf wedi bod yn un anodd iawn i Vaughan Gething, ac mae unrhyw awgrym o deimladau cadarnhaol tuag at ei arweinyddiaeth yn rywbeth fydd o’n hapus iawn i’w bwysleisio.

Ar raglen Y Byd yn ei Le neithiwr (nos Iau, Ebrill 25), mi ddaru’r Athro Richard Wyn Jones grynhoi’r hyn sydd yn ddrwg i’r Prif Weinidog ar hyn o bryd:

“Mae Vaughan Gething wedi cael wythnos wael iawn. Mi welsem ni Jeremy Miles yn plannu ei gyllell yn ei fron o, yn ddeheuig iawn yn dweud bysa fo ddim wedi cymryd yr arian. Mi welsem ni Ken Skates, cyd gadeirydd ymgyrch Vaughan Gething yn dweud ‘nothing to do with me guv’, sydd yn niweidiol iawn.”