Mae gwleidyddion wedi bod yn talu teyrnged i Alistair Darling, y cyn-Ganghellor Llafur, yn dilyn ei farwolaeth yn 70 oed.
Daeth yn Aelod Seneddol dros Gaeredin yn 1987, cyn gadael San Steffan yn 2015.
Bu hefyd yn Ganghellor yn Llywodraeth Gordon Brown rhwng 2007 a 2010, ac fe gafodd ei ddisgrifio gan Tony Blair, cyn-Brif Weinidog Llafur arall, fel ffigwr prin mewn gwleidyddiaeth a “hynod alluog, er yn gymhedrol, yn gynnil ond byth i’w ddiystyru, bob amser yn garedig, yn urddasol hyd yn oed o dan y pwysau dwys y gall gwleidyddiaeth ei greu”.
Fe wnaeth Humza Yousaf, Prif Weinidog yr Alban, ei ddisgrifio fel “cawr yng ngwleidyddiaeth yr Alban a’r Deyrnas Unedig”.
Ymatebion o Gymru
Mae sawl gwleidydd yng Nghymru wedi mynegi eu tristwch yn dilyn y newyddion.
“Rwy’ mewn sioc lwyr,” meddai Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda.
“Roedd yn ddyn mor wych, gweddus, dibynadwy a mawreddog.”
Mae ysgrifennydd gwladol cysgodol Cymru, Jo Stevens, hefyd wedi rhannu neges o gydymdeimlad, gan ddweud bod “ein teulu @UKLabour wedi colli cydweithiwr gwych, ac mae’r wlad wedi colli gwas cyhoeddus ymroddedig”.
Dywed Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, y bydd “colled fawr ar ei ôl”.
“Fel Canghellor, llywiodd Alistair economi Prydain gyda deallusrwydd, tawelwch a gofal,” meddai.
“Ac fel Aelod Seneddol Albanaidd, roedd Alistair bob amser yn ymddiddori’n fawr yng Nghymru a’n taith ddatganoli ar y cyd.”