Mae Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Abertawe wedi’i ddiarddel gan y blaid tros “honiadau eithriadol o ddifrifol”.

Mae honiadau yn Politico bod Geraint Davies, sy’n 63 oed ac yn briod â dau o blant, wedi rhoi “sylw rhywiol dieisiau” i bump o fenywod yn San Steffan, ac mae e wedi colli chwip y blaid o ganlyniad i’r ymchwiliad sy’n golygu ei fod e’n Aelod Seneddol annibynnol am y tro.

Yn ôl llefarydd ar ran y Blaid Lafur, mae’r honiadau’n ymwneud ag “ymddygiad cwbl annerbyniol”, ac maen nhw’n annog unrhyw un sydd am gwyno i fynd atyn nhw.

Mae’r menywod yn honni iddo fynd atyn nhw, yn aml mewn bariau yn San Steffan ar ôl sesiynau pleidleisio gyda’r nos.

Roedd un ohonyn nhw’n 19 oed ar y pryd.

Mae Geraint Davies yn gwadu’r honiadau.

Roedd yn Aelod Seneddol Canol Croydon yn Surrey rhwng 1997 a 2005, ac fe gafodd ei ethol yng Ngorllewin Abertawe yn 2010.

Roedd yn gadeirydd Pwyllgor Dethol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig am gyfnod y llynedd yn dilyn ymddiswyddiad y Ceidwadwr Neil Parish, oedd wedi cyfaddef edrych ar bornograffi ar ei ffôn yn Nhŷ’r Cyffredin.

‘Ddim yn adnabod yr honiadau’

Mewn datganiad, dywed Geraint Davies nad yw’n “adnabod yr honiadau sydd wedi’u hawgrymu nac yn gwybod pwy sydd wedi’u gwneud nhw”.

Dywed nad yw’n credu bod yr un ohonyn nhw wedi cwyno wrth y Blaid Lafur na’r senedd.

“Os ydw i wedi sarhau unrhyw un heb yn wybod i mi, yna dw i’n naturiol sori gan ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n rhannu amgylchedd o barch cyfartal at ein gilydd i bawb.”