Mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn awgrymu bod angen “dynodi rhannau o Gymru yn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol… lle gallai fod angen ymyrraeth er mwyn cynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol”.
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu canfyddiadau cychwynnol y grŵp o arbenigwyr ar ddiogelu dyfodol cymunedau Cymraeg.
Cafodd y Comisiwn ei sefydlu gan y Llywodraeth i edrych ar ffyrdd o gefnogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol, ac fe fydd Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg, yn trafod canfyddiadau’r Comisiwn â’r cadeirydd, Dr Simon Brooks ac yn clywed safbwyntiau pobol ifanc heddiw (dydd Iau, Mehefin 1) mewn sesiwn holi ac ateb ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau i ymgysylltu â chymunedau Cymraeg am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.
Byddai argymhelliad y Comisiwn yn ei gwneud yn bosibl amrywio polisi cyhoeddus i gydnabod anghenion gwahanol rannau o Gymru.
‘Hollbwysig bod ein cymunedau yn gryf’
“Dw i’n croesawu canfyddiadau adroddiad y Comisiwn heddiw,” meddai Jeremy Miles.
“Mae’n hollbwysig bod ein cymunedau yn gryf ac yn cael eu diogelu fel y gall y Gymraeg ffynnu.
“Mae’r heriau sy’n wynebu cymunedau Cymraeg wedi dwysáu dros y blynyddoedd diwethaf.
“Fe welon ni hynny yng nghanlyniadau’r cyfrifiad llynedd, ac mae papur y Comisiwn yn adlewyrchu hynny.
“Mae’r papur yn cydnabod pwysigrwydd gwrando ar y cymunedau Cymraeg eu hunain ynghylch eu hanghenion, a dyna pam dw i wedi dechrau cyfres o ymweliadau, er mwyn clywed pobol yn sôn am eu profiadau.”
‘Angen cymorth pellach i gefnogi’r Gymraeg’
“Mae’r Comisiwn wedi gwrando’n ofalus ar yr hyn oedd gan bobol i’w ddweud,” meddai Dr Simon Brooks.
“Ein canfyddiad cyntaf yw bod angen cymorth pellach i gefnogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd economaidd-gymdeithasol, er enghraifft ym meysydd tai, cynllunio, datblygu cymunedol yn ogystal ag addysg.
“Fe ellid cyflawni hyn drwy ganiatáu i bolisïau sy’n effeithio ar y defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg amrywio mewn gwahanol rannau o Gymru.
“Er mwyn gwneud hyn, mae’r Comisiwn o’r farn y dylid dynodi ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)’, ac mae ein Papur Safbwynt yn trafod sut y gellid cyflawni hynny.”
‘Hen bryd’
Yn ôl Hawl i Fyw Adra, mae’n “hen bryd” ac yn “dyngedfennol bwysig” rhoi pwyslais polisi ar y Gymraeg mewn ardaloedd lle mae hi’n “iaith bob dydd ac yn iaith y stryd”.
“Heb wneud hynny byddwn yn gwneud cam mawr a’n hiaith ac bydd ei dyfodol fel iaith fyw yn gwbwl ansicr,” meddai llefarydd.
“Heb amheuaeth, byddai dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn rhoi sylfaen gadarn at gadw’n hiaith yn hyfyw yn ein cymunedau drwy alluogi ymyrraethau pellgyrhaeddol mewn sawl maes – o addysg i faes tai.
“Bydd y dynodiadau yno’i hunan yn gam arwyddocaol at sicrhau bod pobol leol yn gallu byw adra a byw’n Gymraeg.”
‘Galwad Sir Gâr’
Yn y cyfamser, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyflwyno ‘Galwad Sir Gâr’ i Jeremy Miles yn yr Eisteddfod heddiw.
Mae rhanbarth Caerfyrddin y Gymdeithas yn galw am:
- sicrhau addysg Gymraeg i bawb
- Deddf Eiddo gyflawn
- cynllunio gwaith i gynnal yr iaith
- cynnal cymunedau gwledig a bywoliaeth mewn amaeth
- sefydlu menter ddigidol Gymraeg
- gwneud y Gymraeg yn iaith gwasanaethau cyhoeddus
- gwneud y Gymraeg yn iaith gwaith
Daw hyn wrth i Gyngor Sir Caerfyrddin lansio’u strategaeth newydd i hybu’r Gymraeg yn y sir.
Cafodd y strategaeth ei llunio gan y Fforwm Iaith Sirol, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn un o’i aelodau.
“Mae Cymdeithas yr Iaith yn gefnogol iawn i strategaeth newydd y Cyngor Sir sydd â’r nod o wneud y Gymraeg yn brif iaith y sir, ond mae llawer o feysydd pwysig o ran cyflawni’r nod hwn sydd yn gyfrifoldeb gan Lywodraeth Cymru, nid gan y Cyngor Sir,” meddai Ffred Ffransis ar ran y rhanbarth.
“Mae Cymdeithas yr Iaith yn crynhoi’r rhain yn “Galwad Sir Gâr” – sef galwad ar Lywodraeth Cymru i chwarae ei rhan yn y nod o wneud y Gymraeg yn brif iaith y sir.
“Gall pobol yn Sir Gaerfyrddin weithio’n galed i sicrhau fod addysg yn Gymraeg, a’r Gymraeg yn gynyddol ddod yn iaith y gweithle, ond bydd hynny’n cael ei golli os bydd mwyafrif ein pobol ifainc wedyn yn gorfod gadael y sir oherwydd anhawster cael cartrefi i’w prynu na rhentu na gwaith addas.
“Cyfrifoldeb y Llywodraeth fydd rheoli’r farchnad tai trwy Ddeddf Eiddo neu wneud cynnal yr iaith a chymunedau Cymraeg yn un o amcanion datblygu economaidd.”
“Pryderon”… ond “llawer i’w groesawu” hefyd
Yn ôl Jeff Smith, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith, mae “llawer o argymhellion i’w croesawu yn yr adroddiad”, ond mae’n dweud bod ganddyn nhw “[b]ryderon… am y dull a ddefnyddir i ddiffinio ardaloedd penodol”.
“Mae peryglon posibl i rannu Cymru i ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch a gweddill Cymru,” meddai.
“Gall rhai sefydliadau deimlo nad yw’r Gymraeg o bwys yn y rhan fwyaf o’r wlad, gallai ganiatáu diffyg gweithredu mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn dal yn weddol gryf ond na fyddai’n cael eu hystyried yn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol, a gallai arwain at wthio datblygiadau niweidiol i ardaloedd sydd ddim yn cael eu hystyried i fod ag arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch, yn hytrach nag atal fath datblygiadau.
“Yn lle hynny, rydym ni’n argymell rhoi pob ardal ar daith i fod yn gymuned Gymraeg dros amser a chymhelliant i gynghorau symud i fyny.
“Mae’r comisiwn yn gosod yr opsiwn o ddwy haen ond nid yw hyn yn ddigonol i’r amrywiaeth o gymunedau yng Nghymru.
“Yn ogystal, dylai’r haenau fynd tu hwnt i gynllunio, ac edrych ar ymatebion polisi eang i Gymreigio pob cymuned dros amser.”