Mae Judith Paget wedi’i phenodi i swyddi Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol a Phrif Weithredwr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.
Daeth cadarnhad gan Dr Andrew Goodall, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, ei bod hi wedi cael y swydd barhaol ar ôl bod yn y swydd dros dro ers Tachwedd 2021.
Daw ei phenodiad yn dilyn “ymarfer recriwtio rhyngwladol trwyadl dan gadeiryddiaeth Prif Gomisiynydd y Gwasanaeth Sifil”.
“Mae’n fraint cael fy mhenodi i’r swydd bwysig hon, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Gweinidogion a sefydliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal o’r radd flaenaf,” meddai Judith Paget.
‘Rhagoriaeth’
“Mae Judith wedi dangos rhagoriaeth wrth arwain a goruchwylio Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn ystod rhai o’i gyfnodau mwyaf anodd erioed,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
“Hoffwn i ei llongyfarch ar gael ei phenodi, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau ein gwaith i sicrhau ein bod yn gallu ymfalchïo yn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.”