Mae Dafydd Iwan ymhlith y rhai sydd wedi llofnodi deiseb yn galw ar gadeirydd y BBC i ymddiswyddo.
Mae cyfreithwyr ar ran Richard Sharp yn amau adroddiad drafft sy’n trafod ei gysylltiadau amheus â Boris Johnson, cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, sy’n golygu bod oedi cyn cyhoeddi’r adroddiad.
Cafodd llythyr yn crybwyll yr honiadau yn erbyn Richard Sharp ei anfon ato yn gynharach y mis hwn yn dilyn ymchwiliad gan fargyfreithiwr.
Cafodd Sharp, cyn-fanciwr gyda Goldman Sachs, ei benodi’n gadeirydd y BBC gan Boris Johnson ym mis Chwefror 2021.
Mae’r ymchwiliad yn ystyried honiadau ei fod e wedi trefnu benthyciad personol o £800,000 gyda Boris Johnson cyn iddo ddod yn gadeirydd y Gorfforaeth.
Daeth ymchwiliad blaenorol i’r casgliad ei fod e wedi gwneud “camgymeriadau sylweddol” wrth fethu â datgan ei rôl wrth “hwyluso’r benthyciad” i Boris Johnson.
Y ddeiseb
Dywed y ddeiseb fod yn “rhaid i’n cwmni cyfryngau mwyaf ac uchaf ei barch fod yn gallu dal y rhai mewn grym yn atebol heb ofn na ffafriaeth”.
“Bob diwrnod mae pennaeth y BBC, Richard Sharp, yn aros yn ei swydd, mae’n niweidio annibyniaeth a didueddrwydd ein BBC ymhellach,” meddai.
“Er lles ein BBC, rhaid i Richard Sharp fynd nawr.
“Pam fod hyn yn bwysig?
“Bydd adroddiad i benodiad Richard Sharp yn y BBC yn dangos iddo wneud camgymeriadau sylweddol, ei fod e wedi torri safonau oedd yn ddisgwyliedig ganddo, a’i fod e wedi niweidio ymddiriedaeth y cyhoedd.
“Mae’r rheithfarn yma wedi cyrraedd, ac mae’n ddamniol.
“All ein BBC ni ddim cael ei harwain gan rywun sydd â’r fath ragfarn clir, a phob diwrnod mae e yno mae’n niweidio annibyniaeth a didueddrwydd ein BBC fwyfwy.
“Roedden ni’n gwybod o’r dechrau fod penodi rhoddwr Ceidwadol, cefnogwr Boris Johnson, a chyn-bennaeth ar Rishi Sunak yn hollol anaddas, ond mae’r adroddiad wedi gwneud ei swydd yn anghynaladwy.
“Mae Aelodau Seneddol ar bob ochr yn credu y dylai fynd.
“Nawr, mae angen i ni – y cyhoedd – ddangos nad ydyn ni ei eisiau yno chwaith.
“Er lles ein BBC, rhaid iddo fynd nawr a chael ei ddisodli gan ymgeisydd all ddod ag arweinyddiaeth ddi-duedd a democrataidd yn ôl i’n hannwyl sefydliad.”
‘Arwyddwn’
“Arwyddwn y ddeiseb i gael Richard Sharp i ymddiswyddo,” meddai Dafydd Iwan.
“Rhaid i’n BBC allu dal y rheiny mewn grym yn atebol heb ofn na ffafriaeth.
“Rhaid iddo fynd RWAN.
“Cytuno?
“Mae hunan-barch ac annibyniaeth y BBC yn y fantol.”