Mae Liz Saville Roberts yn dweud bod “Cymru’n haeddu gwell” ac yn cael ei “harwain gan fwlis a llwfrgwn”.

Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn dilyn ymddiswyddiad Dominic Raab, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Cyfiawnder y Deyrnas Unedig, yn sgil adroddiad i honiadau o fwlio yn ei erbyn.

Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad, dywedodd fod yr ymchwiliad wedi “gosod y trothwy ar gyfer bwlio mor isel”, a bod hynny “wedi gosod cynsail peryglus”.

Ychwanegodd y byddai’n “annog cwynion ffug yn erbyn gweinidogion” ac yn cael “effaith iasol” ar y rhai sy’n ceisio arwain newidiadau yn y Llywodraeth.

Er ei fod yn derbyn casgliadau’r adroddiad ar y cyfan, mae’n mynnu nad yw’n euog o rai o’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

‘Diffyg ymddiheuriad’

Wrth ymateb, mae Liz Saville Roberts yn cyhuddo Dominic Raab o “ddiffyg ymddiheuriad”.

“Mae diffyg ymddiheuriad a gêm feio Dominic Raab am fwlio swyddogion yn lefel isel newydd, ond mae oedi gan Rishi Sunak cyn gweithredu ar ymddygiad ei ddirprwy yr un mor siomedig,” meddai.

“Mae’r Prif Weinidog wedi dangos llwfrda wrth adael i Raab ymddiswyddo tra nad oedd y Senedd yn eistedd, yn hytrach na gweithredu’n gyflym drwy ei ddiswyddo ddoe.

“Rydym yn cael ein harwain gan fwlis a llwfrgwn.

“Mae Cymru’n haeddu gwell.”