Wrth i wersi newydd ddechrau yn Neuadd Bentref Rhiwlas yr wythnos hon, mae’r athrawes Jill Turner wedi bod yn siarad â golwg360 am y gwahaniaethau rhwng ei chrefft hi, qigong, a tai-chi.

Yn Tsieina hynafol, mae qigong a tai-chi yn ymarferion hunan-iachâd a myfyrdod lle mae gofalu am yr hunan yn greiddiol iddyn nhw.

Mae qigong, sydd wedi’i wreiddio mewn damcaniaethau meddygaeth Tsieineaidd draddodiadol (TCM), wedi’i nodweddu gan ystum corff a symudiadau cydgysylltiedig, anadlu rhythmig dwfn, myfyrdod, a ffocws meddyliol.

Mae’n ffordd o ymlacio ac o iacháu, ac mae’n addas ar gyfer oedolion o bob oed a lefel ffitrwydd.

Bydd y gwersi newydd yn Neuadd Bentref Rhiwlas, rhwng 6 o’r gloch a 7 o’r gloch.

Y gwahaniaethau

“Mae cysylltiad agos rhwng Tai chi a Qigong ac mae rhai athrawon yn ymarfer yr hyn maen nhw’n ei alw’n Taichi Qigong. mae tai chi yn pwysleisio gwaith partner a mae elfen o ymladd yn tai-chi, tra gyda qigong, mae’ Qigong yn canolbwyntio ar feithrin egi a hybu iechyd a bod yn fywiog,” meddai Jill Turner wrth golwg360.

Mae’r ddau yn gweithio ar y meddwl a’r corff yn naturiol, ond mae mwy o symud yn tai-chi ac mae yna elfen o ymladd hefyd, meddai.

“Mae’r ddau yn tarddu o’r un system hunanamaethu a hybu iechyd Tsieineaidd hynafol.

“Mae tai-chi yr un ffurf â qigong, ond mae qigong yn hŷn.

“Mae’r ddau yn dilyn y ffordd naturiol, y gyfraith natur ac yn ymarfer ymlacio, aliniad corff, gwaith corff a rhoi sylw i’r meddwl.

“Mae tai-chi yn gyfres araf, osgeiddig o symudiadau sy’n gweithio ar y corff cyfan ac yn creu dilyniant llifeiriol o’r enw ffurfiau.

“Mae meistri tai-chi yn creu gwahanol fathau o ffurfiau.

“Er enghraifft, rydw i wedi dysgu’r xCheng Man Ch’ing.

“Bydd gan rai ffurfiau 24 symudiad.

“Mae rhai efo 24 ar gyfer fersiwn symlach, ond mae’n mynd i fyny i 108 neu fwy o symudiadau ar gyfer fersiwn draddodiadol; oherwydd hynny, mae angen mwy o le i berfformio tai-chi oherwydd eich bod yn symud mewn dawns barhaus.

“Unwaith y byddwch chi wedi dysgu’r ffurf, mae perfformio’n cymryd tua deg i bymtheg munud, felly mae angen lle arnoch chi.

“Mae qigong yn ymarferiad unigol sy’n cynnwys cyfres o ymarferion, pob un â’i fanteision i’r iechyd.

“Ar gyfer qigong, mae yna wahanol setiau, ond byddan nhw’n cynnwys ymarferion unigol, yn bennaf ymarfer sefyll mewn un lle, neu un neu ddau o gamau, heb gymryd gymaint o le.

“Mae tai-chi efo elfen firwrol iddi.

“Yn bendant, mae elfen o ymladd yn tai-chi, tra gyda qigong mae’n golygu gwaith anadl.

“Does ganddo ddim elfen o ymladd o gwbl, mae’n bennaf er mwyn lles iechyd.

“Ym mhob arddull o tai-chi a qigong, mae gennych chi symud, anadlu, delweddu, myfyrio, a meddygaeth a ffocws. Mae’r ddau yn ymarferion rhoi iechyd.

“Rwy’n tueddu i wneud yr un meddygol oherwydd fy mod yn ymarfer gyda sefydliad o’r enw British Health Qigong Association a dyna’r un maen nhw’n ei ddysgu.

“Rwy’ hefyd yn aelod o Undeb Tai-chi GB, ac maen nhw’n hyrwyddo pob math o steiliau gwahanol. Dyma un o’r arddulliau maen nhw’n ei hyrwyddo.

“Mae’n well gen i ganolbwyntio ar iechyd meddygol, ac er mwyn ymlacio.

“O safbwynt meddygol, mae’n rhaid cael yr ystum cywir i gael y budd mwyaf ohono.

“Ond os ydych chi wedi ymlacio, dydy o ddim mor bwysig â hynny.”

Qigong yn ymarfer i’r meddwl

Yn ogystal â iacháu’r corff, mae qigong yn gweithio ar y meddwl drwy gryfhau, symud egni a bod yn bresennol yn y presennol.

“Mae qigong yn ymarfer y meddwl cymaint â’r corff,” meddai.

“Mae’r ymarferion yn cael eu galw, yn aml, yn fyfyrdod teimladwy.

“Wrth i chi ymarfer, mae’ch ffocws ar y symudiad a gallwch brofi ystod eang o deimladau a chyflyrau meddwl.

“Y peth pwysicaf yw sylwi ar y rhain, tynnu sylw at y presennol a bod yn y funud.

“Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn rhan ohono, ac yna drwyddi draw.

“Mae pwyntiau egni yn y corff.

“Trwy ganolbwyntio’r meddwl a’r sylw ar bwyntiau penodol, y gred yw y bydd y pwyntiau egni yn llifo’n well.

“Mae hyn yn cael ei alw’n fwriad meddwl.

“Dywed dyfyniad fod bod yn llonydd fel mynydd; a symud fel afon fawr’.

“Mae hynny’n ymwybyddiaeth ofalgar oherwydd rydych chi’n dal sefyllfa, ond mae cymaint o bethau da yn digwydd ynoch chi.

“Does dim yn cael ei orfodi, rydych yn agor a rhyddhau.

“Mae meddylgarwch yn rhan hanfodol ohono oherwydd o Tai chi a Qigong.

“Mae’r meddwl i greu’r symudiadau hyn a dadflocio’r egni yn digwydd.”