Mae canlyniadau pôl sy’n dangos bwriad pleidleisio pobol yng Nghymru ar gyfer etholiadau nesaf San Steffan yn dangos gostyngiad sylweddol mewn cefnogaeth i’r Ceidwadwyr ers etholiad cyffredinol 2019.
Rhagfynega’r pôl gan Redfield & Wilton gynnydd o 3% yn y gefnogaeth i’r Blaid Lafur, sy’n eu gadael nhw ar y blaen o 20%.
Yn ôl yr ystadegau, mae 44% yn bwriadu pleidleisio dros y Blaid Lafur a 24% dros y Ceidwadwyr.
Pleidleisiodd 36% o Gymry dros y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.
Mae’r pôl hefyd yn awgrymu cynnydd bychan yn y gefnogaeth i Blaid Cymru, y Blaid Werdd, y Democratiaid Rhyddfrydol a Reform UK.
Awgryma y bydd cynnydd – o 5% i 9% – mewn pleidleisiau ar gyfer Reform UK, tra bod y gefnogaeth i Blaid Cymru’n cynyddu o 10% i 12%.
Yn ôl y pôl, yr economi a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yw’r materion pwysicaf i bleidleiswyr, gyda 62% yn dweud mai dyma oedd y prif agweddau fyddai’n effeithio ar sut fyddan nhw’n pleidleisio mewn etholiad cyffredinol.
Ymysg y materion pwysig eraill i bleidleiswyr mae mewnfudo (28%), yr amgylchedd (21%) a thai (18%).
Annibyniaeth yn flaenoriaeth isel
Mae’r pôl yn dangos pa faterion sydd bwysicaf i bleidleiswyr pob plaid, gyda dim ond 1% o bleidleiswyr y Ceidwadwyr a 5% o bleidleiswyr Llafur yn dweud bod annibyniaeth yn fater pwysig iddyn nhw.
Ar y cyfan, dim ond 5% ddywedodd y byddai annibyniaeth yn un o dri phrif ffactor fyddai’n effeithio ar eu pleidlais pe bai etholiad yfory.
Fodd bynnag, roedd annibyniaeth yn un o’r tri phrif faes i 28% o bleidleiswyr Plaid Cymru.
Ar y cyfan, byddai 60% yn pleidleisio ‘Na’ mewn refferendwm ar annibyniaeth ar hyn o bryd, tra byddai 29% yn pleidleisio ‘Ie’.
Bwlch bach rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru
O ran bwriad pleidleisio’r Senedd, 41% i Lafur, 21% i’r Ceidwadwyr a 20% i Blaid Cymru oedd y ffigyrau ar gyfer y bleidlais etholaethol.
Ar gyfer y bleidlais ranbarthol, byddai 32% yn pleidleisio dros Lafur, tra bod bwlch bach eto rhwng y 23% fyddai’n pleidleisio dros Blaid Cymru a’r 22% fyddai’n pleidleisio dros y Ceidwadwyr.
Ymysg y pleidleiswyr, polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer Covid-19, yr amgylchedd a materion diwylliannol oedd â’r gyfradd gymeradwyaeth net uchaf.
Ar ochr arall y raddfa, y polisïau â’r gymeradwyaeth isaf oedd gwasanaethau tai, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a thrafnidiaeth.
‘Lle unigryw a phwysig yng ngwleidyddiaeth Prydain’
Dyma’r pôl Cymru-benodol cyntaf a wnaed gan Redfield & Wilton.
“Fel un o’r pedair gwlad sy’n rhan o’r Deyrnas Unedig a chyda’i Llywodraeth ddatganoledig ei hun, mae gan Gymru le unigryw a phwysig yng ngwleidyddiaeth Prydain,” meddai’r cwmni.
“Yn Etholiad Cyffredinol 2019, llwyddodd y Blaid Geidwadol i ddod 5% yn unig y tu ôl i Lafur yng Nghymru, ond mae’n edrych yn debyg y bydd perfformiad cryf Llafur yng Nghymru yn parhau yn yr etholiad nesaf.”