Mae mudiad annibyniaeth YesCymru wedi ymateb yn chwyrn i’r adroddiadau bod Boris Johnson wedi enwebu ei dad i gael ei urddo’n farchog.

Mae nifer o bapurau newydd Prydeinig yn cario’r stori heddiw (dydd Llun, Mawrth 6).

Daw hyn wrth i gyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig baratoi i gyhoeddi ei anrhydeddau ymadael yn dilyn ei ymddiswyddiad fis Gorffennaf y llynedd.

Mae llefarydd ar ran Boris Johnson wedi gwrthod gwneud sylw am yr adroddiadau am Stanley Johnson, sydd ei hun wedi bod dan y lach yn y gorffennol yn sgil ei ymddygiad.

Fe wynebodd Boris Johnson gryn feirniadaeth yn 2020, ar ôl enwebu ei frawd Jo i ddod yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi, ac fe ddaw’r helynt diweddaraf ar ôl i’w tad gael ei gyhuddo o gyffwrdd â merched mewn modd amhriodol, gwneud sylwadau amhriodol a smacio pen ôl un ddynes yng nghynadleddau’r Ceidwadwyr ym mlynyddoedd cynnar yr unfed ganrif ar hugain.

Doedd Stanley Johnson “ddim yn cofio” yr un o’r digwyddiadau pan gafodd ei holi pan ddaeth yr honiadau i’r fei.

‘Nepotistiaeth a llygredd’

Wrth ymateb i’r adroddiadau, mae YesCymru yn dweud ei bod hi’n “bryd i Gymru adael y llanast yma”.

“O leiaf yn y blynyddoedd a fu, roedd sefydliad San Steffan yn ceisio cuddio’u nepotistiaeth a’u llygredd,” meddai neges ar eu tudalen Twitter.

“Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn trafferthu ceisio gwneud rhagor.

“Mae’n bryd gadael y llanast yma.”