Mae angen i Lywodraeth Cymru ariannu mudiad y Ffermwyr Ifanc yn well, yn ôl Aelod Hŷn y Flwyddyn y mudiad.
Yn ôl Endaf Griffiths, gafodd ei enwi’n Aelod Hŷn y Flwyddyn yn ystod Gwledd o Adloniant y mudiad ym Mangor dros y penwythnos, mae’r arian yn “annigonol” o’i gymharu â’r cyllid mae mudiadau ieuenctid eraill yn ei gael.
Ddechrau fis Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru’n derbyn £4,990 o gyllid ychwanegol, fel rhan o arian sy’n mynd i fudiadau sy’n helpu pobol i ddefnyddio mwy o Gymraeg.
Bu newidiadau i gyllid y Ffermwyr Ifanc yn 2014, wedi i Lywodraeth Cymru stopio rhoi grant blynyddol o £120,000 iddyn nhw, ac wedi i Gyfoeth Naturiol Cymru stopio grant o £20,000 i’r mudiad.
Mae’r Ffermwyr Ifanc wedi cyhoeddi na fydd Pentref Ieuenctid yn y Sioe Frenhinol eleni, gan ddweud bod y penderfyniad yn golygu gwell sicrwydd ariannol.
‘Hyrwyddo enw da’r mudiad’
Wrth drafod ei flaenoriaethau fel Aelod Hŷn y Flwyddyn, dywed Endaf Griffiths, sy’n aelod o Glwb Pontsian yng Ngheredigion, ei fod yn awyddus i hyrwyddo enw da’r mudiad.
“Mae’n deimlad od, â dweud y gwir; dw i ddim wedi meddwl llawer amdano fe,” meddai wrth golwg360 yn ystod cystadleuaeth Hanner o Adloniant y Ffermwyr Ifanc ddoe (dydd Sul, Mawrth 5).
“Roeddwn i’n perfformio heddiw fel aelod o CFfI Pontsian, roedd gennym ni Hanner Awr o Adloniant Cymraeg felly dw i ddim wedi cael llawer o amser i feddwl am yr anrhydedd.
“Mae gan fudiad y Ffermwyr Ifanc enw da iawn, â dweud y gwir, maen nhw’n gwneud gymaint o waith arbennig o fewn ein cymunedau gwledig ni.
“Maen nhw’n cynnig cyfleon i’n pobol ifanc ni, cyfleon amrywiol tu hwnt; un diwrnod mi allech chi fod yn siarad yn gyhoeddus, diwrnod nesaf efallai y byddwch chi’n barnu ring o wartheg.”
Gwaith a gwerth cymunedol
Ynghyd â’r cyfleoedd i bobol ifanc, mae’r mudiad yn gwneud cryn waith cymunedol, yn ôl Endaf Griffiths.
“Mi welon ni hynny yn ystod y pandemig a gyda’r holl glybiau ledled Cymru a Lloegr yn mynd ati i helpu pobol fregus o fewn y gymuned, mynd i nôl presgripsiynau ar eu rhan nhw o’r fferyllfa, ac efallai mynd i siopa iddyn nhw,” meddai.
“Mae’r gwaith cymunedol hwnnw’n parhau oherwydd bob blwyddyn, mae clybiau ledled y wlad yn dewis elusennau i godi arian iddyn nhw’n ystod y flwyddyn.
“Mae’n siŵr gen i fod miloedd ar filoedd o arian yn cael ei godi bob blwyddyn gan fudiad y Ffermwyr Ifanc.
“A dweud y gwir, mae angen i Lywodraeth Cymru i’n hariannu ni, mudiad y Ffermwyr Ifanc, yn well, yn fy marn i.
“Mae’r arian mae’r mudiad yn ei gael ar hyn o bryd yn annigonol os ydyn ni’n ei gymharu e gyda’r cyllid mae mudiadau ieuenctid eraill yn ei gael.
“Yn ogystal â’r cyfleoedd mae’r mudiad yn eu cynnig a’r gwaith cymunedol maen nhw’n ei wneud, maen nhw hefyd yn cynnal y gymuned mewn sawl ardal.
“Er enghraifft, yn ardal Pontsian, dw i’n credu bod e’n saff i fi ddweud mai’r clwb Ffermwyr Ifanc yw, ambyti bod, yr unig beth sydd ar ôl gyda ni – mae niferoedd y capel yn mynd yn is, mae’r ysgol wedi cau, mae’r adnoddau sy’n dod mewn i’r gymuned wedi lleihau yn aruthrol.
“Dim ond y Ffermwyr Ifanc sydd ar ôl, ac rydyn ni’n trio ein gorau i gynnal y gymuned gyda digwyddiadau yn ystod y flwyddyn ac mae pobol yn barod i’n cefnogi ni.
“Er mai mudiad i aelodau rhwng deg oed i fyny i hyd at 28 oed ydy mudiad y Ffermwyr Ifanc, mae gymaint mwy ohoni hefyd, mae gymaint o bobol eraill ynghlwm â’r mudiad hefyd, pobol sydd efallai’n hŷn na 28 oed sy’n barod i’n cefnogi ni, y bobol ifanc, i’n helpu ni i gynnal ein gweithgareddau ni ac i roi cynghorion yn aml iawn.
“Y prif bwynt dw i am wneud ydy bod mudiad y Ffermwyr Ifanc yn gymuned.”
‘Gwerthfawrogi’r gwaith’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn llwyr ymwybodol sut mae costau cynyddol yn cael effaith ar bawb.
“Mae CFfI Cymru yn darparu cyfleoedd unigryw i bobl ifanc ddatblygu eu huchelgeisiau, eu sgiliau a’u hyder, ac rydym yn gwerthfawrogi’r gwaith maen nhw’n ei wneud ledled y wlad. Rydym yn cefnogi ffermwyr ifanc sy’n byw mewn ardaloedd gwledig drwy raglenni fel Cyswllt Ffermio a Menter, yn ogystal â’r cyllid rydym yn ei ddarparu i CFfI Cymru.
“Fis diwethaf, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y Gymraeg daliad grant untro ychwanegol ar gyfer CFfI Cymru i helpu i leddfu’r pwysau ychwanegol y maent yn ei wynebu oherwydd yr argyfwng costau byw parhaus. Buont hefyd yn llwyddiannus yn eu cais i Gronfa Cydnerthedd Diwylliannol Llywodraeth Cymru, ar ôl derbyn £220,610 yn 2020 a 2021 o ganlyniad i’r pandemig.
“Rydym hefyd wedi cyhoeddi pecyn o dros £200m i gefnogi’r economi wledig tuag at ddyfodol mwy gwyrdd a mwy cynaliadwy. Mae’r arian yma yn cefnogi sawl cynllun gan gynnwys help i bobl ifanc sydd eisiau gweithio o fewn neu ddatblygu ymhellach ym maes Amaethyddiaeth.”