Mae Rishi Sunak yn dweud y byddai’n awyddus i sicrhau bod mwy o graffu ar y llywodraethau datganoledig pe bai’n dod yn arweinydd nesa’r Ceidwadwyr ac yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Daw sylwadau’r cyn-Ganghellor wrth iddo fe a Liz Truss, ei wrthwynebydd yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, gymryd rhan mewn hystingau yn Perth yn yr Alban nos Fawrth (Awst 16).

Yn ôl ei gynlluniau, bydd rhaid i bennaeth y Gwasanaeth Sifil yn yr Alban fynd i wrandawiadau’r Pwyllgor Dethol yn San Steffan, tra bydd gofyn i weinidogion San Steffan fod yn fwy gweladwy yn yr Alban.

Byddai gofyn hefyd fod Llywodraeth yr Alban yn cyhoeddi data’n rheolaidd ynghylch eu perfformiad, gan sicrhau bod modd cymharu’r gwasanaethau’n well ar draws y Deyrnas Unedig.

Y Gwasanaeth Sifil

Ar hyn o bryd, does dim rhaid i weision sifil fynd gerbron yr un o Bwyllgorau Dethol San Steffan, sy’n golygu eu bod nhw’n atebol i Holyrood yn unig – er bod eu gwaith ar y cyfan yn cael effaith ar y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.

O dan y cynlluniau, byddai’n rhaid i Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth yr Alban fynd gerbron y Pwyllgor Dethol Materion Cyhoeddus a Chyfansoddiadol bob blwyddyn, yn yr un modd â’r Ysgrifennydd Cabinet.

Mae gweinidogion San Steffan a gweision sifil eisoes yn derbyn cyngor i fynd gerbron Pwyllgorau Dethol Holyrood, ond byddai Rishi Sunak yn atgyfnerthu hyn ac yn sicrhau bod gweinidogion San Steffan yn fwy gweladwy yn Holyrood, mewn ymgais i hyrwyddo cyfrifoldeb ar y cyd am yr Undeb.

Dwyn llywodraethau datganoledig i gyfrif

Er mwyn sicrhau nad yw data anghyson yn tarfu ar waith y gwasanaeth sifil, bydd Rishi Sunak yn sicrhau bod data cyson yn cael ei gyhoeddi ar draws y Deyrnas Unedig, gan ddweud y bydd hyn yn golygu gwell craffu ar wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys ôl-groniad y Gwasanaeth Iechyd.

“Mae dyfodol y Deyrnas Unedig yn ddisglair ond rhaid i’n Hundeb gydweithio, pob cenedl ysgwydd yn ysgwydd, i gyrraedd y fan honno,” meddai.

“Rhaid i ni gyd-drechu’r heriau sy’n bygwth iechyd ein gwasanaethau cyhoeddus.

“O dan fy nghynlluniau, bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn chwarae ei rhan, ond ar yr un pryd rhaid i Holyrood wneud hynny hefyd.

“Am yn rhy hir, mae’r SNP wedi gallu cuddio’u methiannau drwy ddewis a dethol y data maen nhw’n ei gyhoeddi – byddwn i’n newid hynny, gan sicrhau y byddai modd dwyn record Llywodraeth yr Alban i gyfrif, tra’n sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cyd-gysylltu’n well.

“Bydd gweision sifil yr Alban hefyd yn wynebu mwy o graffu, gyda’r disgwyl i Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth yr Alban fynd i wrandawiad Pwyllgor Dethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig bob blwyddyn.”