Mae erthygl yn cyfeirio at Lanwddyn fel “pentref tanddwr cyfrinachol” wedi derbyn beirniadaeth hallt.

Yn ôl y Mirror, mae “pentref tanddwr cyfrinachol sydd wedi cael ei guddio ers 40 mlynedd wedi cael ei ddatgelu wrth i’r tywydd poeth eithafol ym Mhrydain sychu’r llyn lle y cuddiwyd”.

Cafodd y pentref ei foddi yn yr 1880au er mwyn creu cronfa ddŵr i Lerpwl, fel sy’n cael ei nodi ymhellach yn yr erthygl gan ddirprwy olygydd newyddion y papur.

Yn ôl yr erthygl gan Joseph Wilkes, dyma’r tro cyntaf i adfeilion Llanwddyn ddod i’r golwg ers haf poeth 1976.

Ond, mae defnyddwyr ar y cyfryngau cymdeithasol wedi beirniadu trydariad gafodd ei gyhoeddi gan y Mirror ynghylch yr erthygl, gan nodi nad yw’n cyfeirio at y ffaith fod y pentref wedi cael ei foddi’n bwrpasol.

Meddai’r awdures Lou Morgan, sy’n dod o Gymru ond sydd bellach yn byw yng Nghaerfaddon: “Sori, ond wrth ddweud ‘pentref tanddwr cyfrinachol’, ydych chi’n golygu ‘pentref Cymreig lle y cafodd pobol eu gorfodi o’u cartrefi fel bod yr ardal yn gallu cael ei boddi i adeiladu cronfa i Lerpwl?’, ia? Honna?”

“Newyddiaduraeth Saesnig ar ei mwyaf twp,” meddai Howard Huws.

“Bu gweddillion adeiladau ar y safleoedd hyn yn weladwy sawl gwaith yn ystod y degawdau diwethaf, ond dyna ni, mae popeth i’r gorllewin o Glawdd Offa’n ‘gyfrinach’ ac yn ‘ddirgelwch’ i bobol nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb yng Nghymru.”

‘Pentref cuddiedig’

Cafodd hen bentref Llanwddyn ei foddi yn 1888 pan gafodd argae Llyn Llanwddyn ei hadeiladu, a chafodd pentref newydd Llanwddyn ac eglwys newydd eu hadeiladu ychydig i’r de.

“Mae’n bosib gweld y tai a oedd ym mhentref Llanwddyn am y tro cyntaf ers sychder mawr 1976, ac mae’r llyn yng nghanolbarth Cymru wedi sychu gymaint ar ôl wythnosau o wres llethol nes ei fod yn hanner gwag, fwy neu lai,” meddai’r erthygl.

“Mae llyn hyfryd Efyrnwy ym Mhowys ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri ac fel arfer byddai’r tua 90% o’r gronfa yn llawn dŵr yr adeg hon o’r flwyddyn.

“Ond o ganlyniad i’r tywydd sych, mae manylion y pentref cuddiedig, gan gynnwys sylfaeni hen adeiladau a thai wedi’u boddi, waliau cerrig a hen bont [yn y golwg].”