Bydd oedolion cymwys yng Nghymru yn dechrau cael eu gwahodd am bigiad atgyfnerthu’r hydref ar gyfer Covid-19.

Fe fydd y brechiadau’n dechrau cael eu rhoi i bobol sydd â risg uwch yn sgil Covid-19 ddechrau fis Medi, er mwyn eu diogelu rhag salwch difrifol a diogelu’r Gwasanaeth Iechyd yn ystod y gaeaf.

Bydd un dos o frechlyn Covid-10 yn cael ei gynnig i’r canlynol:

  • Preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn a staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Pob oedolyn 50 oed a hŷn
  • Pobol rhwng 5 a 49 oed sydd mewn grŵp risg glinigol
  • Pobol rhwng 4 a 49 oed sy’n gysywllt cartref i bobol â system imiwnedd wan
  • Pobol rhwng 16 a 49 sy’n ofalwyr.

Yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), bydd oedolion 18 oed a hŷn yn derbyn brechlyn Moderna, a bydd plant a phobol ifanc dan 18 oed yn cael cynnig Pfizer.

Bydd y ddau frechlyn yn cael eu cynnig o leiaf dri mis ar ôl unrhyw ddos blaenorol.

Fe fydd oedolion cymwys yn cael eu gwahodd drwy lythyr i fynd i ganolfan frechu, meddygfa neu fferyllfa i gael pigiad atgyfnerthu’r hydref.

‘Rhyddid a hyder’

Dywed yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan y byddan nhw’n canolbwyntio ar ddiogelu’r “pobol sy’n dal i fod mewn mwy o berygl o salwch Covid-19 difrifol” wrth i’r Deyrnas Unedig symud o gyfnod o ymateb brys i gyfnod o adfer.

“Mae brechu wedi cael effaith enfawr ar hynt y pandemig ac wedi helpu i wanhau’r cysylltiad rhwng y feirws, salwch difrifol, derbyniadau i ysbytai a marwolaeth,” meddai.

“Maen nhw wedi achub bywydau di-rif ac wedi rhoi’r rhyddid a’r hyder inni ailddechrau ein bywydau.

“Dw i’n annog pawb sy’n gymwys ac sy’n cael gwahoddiad ar gyfer pigiad atgyfnerthu’r hydref eleni i fanteisio ar y cynnig, a hoffwn ddiolch i bawb sy’n gweithio yn y rhaglen frechu yng Nghymru.”

Mae Llywodraeth Cymru’n annog pobol i fanteisio ar frechiadau ffliw hefyd pan fyddan nhw’n cael eu cynnig.

Ynghyd â hynny, maen nhw’n argymell bod pobol yn cymryd y camau canlynol i ddiogelu eu hunain a’r wlad:

  • cael y brechlyn
  • golchi dwylo’n dda a rheolaidd
  • aros gartref a chael cyn lleied o gyswllt â phosib ag eraill os ydych chi’n sâl
  • gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau prysur a chaeedig dan do
  • cwrdd ag eraill yn yr awyr agored lle bynnag y bo’n bosib
  • pan fyddwch dan do, cynyddu lefel yr awyru a gadael awyr iach mewn