Fe fu ymateb cymysg i’r cynlluniau i ddileu ‘Glyndŵr’ o enw’r brifysgol yn Wrecsam.

Yr wythnos ddiwethaf, roedd y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol yn adrodd fod y brifysgol yn Wrecsam yn bwriadu dileu ‘Glyndŵr’ o’i henw er mwyn dod yn Brifysgol Wrecsam fel rhan o gynlluniau i ailfrandio.

Byddai’n newid sylweddol i’r brifysgol sydd yn bartner i Brosiect Porth Wrecsam, cynllun dinesig mawr i ailddatblygu rhan o’r ddinas, ar y cyd â Chyngor Wrecsam, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru a Chlwb Pêl-droed Wrecsam.

Mae staff a myfyrwyr eisoes wedi cael cyfle yn fewnol i gael dweud eu dweud am y cynlluniau, ac fe fu ymateb eang ar-lein drwy sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae rhai sydd wedi gwneud sylwadau yn cwestiynu’r cynlluniau arfaethedig i ddileu rhan o enw’r sefydliad sydd wedi bod yn ei le ers cael statws prifysgol yn 2008 ac sy’n talu sylw i’r ffigwr Cymreig hanesyddol.

“Lapio o’r newydd ydi ailfrandio,” meddai Sam La Roche.

“Glyndŵr Wrecsam/Wrecsam ydi o. Ddim yn anodd!

“Does neb yn dweud ‘o na’ dw i ddim yn gwybod pwy ydi Syr John Moores, felly af fi ddim yno!”

“Mae pobol bellach yn adnabod Prifysgol Wrecsam wrth yr enw Prifysgol Glyndŵr [ac] os ydych chi’n ei newid o unwaith eto, rydych chi’n colli ei hunaniaeth hi eto,” meddai Gwenda Parry Strong.

“Mae’n enw addas ar yr ardal ac ni ddylid ei newid.”

Ond nid pawb sy’n cytuno, gydag eraill o’r farn y byddai newid yr enw’n gwneud synnwyr i’r brifysgol, wrth iddi geisio ehangu ei hapêl ymhellach i ffwrdd.

“Prifysgol yn Wrecsam ydi hi, felly dylid ei galw hi’n Brifysgol Wrecsam,” meddai Lynda Roberts.

Wrth gyfeirio at berchnogion Hollywoodaidd Clwb Pêl-droed Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, dywed Paul Jones, “O ystyried bod Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi cymryd drosodd yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam, ‘Wrecsam’ yw’r brand byd-eang yn gynyddol. Felly mae’n gwneud synnwyr.”

“Dw i’n credu y byddai ei galw hi’n Brifysgol Wrecsam yn gwneud iddi berthyn i’r dref fwy,” meddai Sheelagh MacKenzie Jones. “Yn enwdig os ydi hi am fod yn rhan o borth Wrecsam.”

Ymateb y brifysgol

“Yn dilyn trafodaethau mewnol, rydym yn ceisio mesur barn am newid enw’r brifysgol drwy ymgynghori â staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid allanol,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Glyndŵr wrth egluro’r rhesymau dros ystyried y newid.

“Byddai ailenwi’r brifysgol yn Brifysgol Wrecsam yn helpu i gysoni marchnata a chryfhau ein brand a’n hunaniaeth.

“Mae’r brifysgol yn falch o fod wedi’i lleoli yn Wrecsam – lle sydd yn datblygu, wedi cael statws dinas yn ddiweddar, wedi cyrraedd y rownd derfynol gyda’u cais am Ddinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2025, ac sydd â chynlluniau buddsoddi ac adfywio uchelgeisiol rydyn ni’n rhan ohonyn nhw.

“Paru syml rhwng lle a phrifysgol yw’r ffordd fwyaf effeithiol o gyrraedd cynulleidfaoedd ac mae’n cael ei ailadrodd ledled y sector addysg uwch yn y Deyrnas Unedig.

“Byddai ein hailenwi’n Brifysgol Wrecsam yn ein galluogi ni i gyfathrebu enw’r brifysgol yn haws i fyfyrwyr a rhanddeiliaid eraill yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

“Byddwn hefyd yn parhau i ddathlu gwaddol Owain Glyndŵr ac yn creu cynlluniau ar wahân ar gyfer hyn.”