Mae dynes o India sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghymru’n dweud y gellid manteisio ar fyd y sinema yng Nghymru i addysgu pobol am y frwydr i ennill annibyniaeth fel mae diwydiant ffilmiau ei mamwlad yn ei wneud.

Er nad ydy Nikita Jones, sy’n byw ym Mhenrhyndeudraeth ac yn hanu o India, o reidrwydd yn dathlu Diwrnod Annibyniaeth India heddiw (dydd Llun, Awst 15), mae hi’n teimlo ei fod yn gyfle i basio hanes ei hynafiaid i’w phlant.

Mae hi’n 75 mlynedd eleni ers i India ennill ei hannibyniaeth a throi ei chefn ar yr Ymerodraeth Brydeinig, a hefyd ers i India a Phacistan ddod yn ddwy wlad ar wahân.

Ar y diwrnod hanesyddol hwnnw, cododd y prif weinidog faner India uwchben Caer Coch India ac mae pob prif weinidog ers hynny wedi gwneud union yr un fath ar Awst 15 bob blwyddyn.

Mae’r diwrnod yn Ŵyl Banc yn India ac mae’n cael ei ddathlu ym mhob talaith a thiriogaeth.

Ar noswyl Diwrnod Annibyniaeth, mae Arlywydd India yn annerch y genedl, ac ar y diwrnod ei hun, mae’r prif weinidog yn codi’r faner yn Delhi ac yn traddodi araith lle mae’n amlinellu llwyddiannau’r flwyddyn aeth heibio, yn trafod materion o bwys ac yn galw am ddatblygiadau pellach.

Mae’r prif weinidog hefyd yn talu teyrnged i sylfaenwyr y mudiad annibyniaeth, a chaiff yr anthem genedlaethol Jana Gana Mana ei chanu cyn i’r lluoedd arfog orymdeithio, gyda digwyddiadau’n darlunio’r frwydr dros annibyniaeth.

Mae ysgolion a cholegau hefyd yn codi baner India ar y diwrnod, a chaiff adeiladau eu haddurno gan ddefnyddio papur, balwns, goleuadau ac addurniadau eraill, ac mae modd gweld baner India yn cyhwfan ar draws y wlad.

Er mai dathliad cenedlaetholgar oedd e yn y blynyddoedd cynnar, fe ddaeth yn ddathliad ehangach o India fel gwlad erbyn hyn.

Colli treftadaeth ddiwylliannol India

Mae Nikita Jones yn teimlo bod cymaint o dreftadaeth ddiwylliannol India mae ei phlant yn ei golli yma yng Nghymru.

“Straeon am hanes India yw’r unig beth sydd gennyf mewn gwirionedd i rannu efo nhw,” meddai wrth golwg360.

“Mae o wedi bod yn anodd oherwydd eu hoed.

“Yr unig ffordd dw i wedi gallu cyflwyno ychydig o India iddyn nhw yw trwy gerddoriaeth a’r bwyd.”

Ond mae hi’n credu bod mwy y gall y wlad ei wneud trwy addysg er mwyn sicrhau bod pobol yn gwybod hanes India a brwydr ei hynafiaid am annibyniaeth.

Addysg am hanes “maniacs genocidal” yn ‘ddiabolaidd’ yma

Mae hi’n teimlo bod angen mwy o gydnabyddiaeth cyn gallu dathlu’r diwrnod yma, ac mae’r ysgol yn ffordd o sicrhau hynny, meddai.

“Dw i methu dweud digon am faint mae angen i gwricwlwm ysgol y wlad yma newid.

“Mae’r ffordd mae hanes yn cael ei ddysgu yn y wlad yma’n ddiabolaidd. Mae’n ysgytwol.

“Y ffordd mae’r Ymerodraeth Brydeinig wedi’i phaentio fel achubwyr… fel marchogion mewn arfwisgoedd disglair. Roedden nhw’n maniacs genocidal.”

“Efallai y bydd y dealltwriaeth yn tyfu a newid dros amser, ond bydd o byth yn colli arwyddocâd.”

Bydd hi’n defnyddio heddiw fel cyfle i siarad â’i phlant am yr hanes maen nhw’n ei golli yn yr ysgol, meddai.

“Dw i’n meddwl bod heddiw yn gyfle i basio hanes lawr a siarad efo nhw gan eu bod nhw nawr yr oedran ble maen nhw’n gallu deall.

“Dw i eisiau iddyn nhw ddeall ar ba gost ddaeth annibyniaeth i India a pha mor anodd oedd o i’w hynafiaid.”

“Mae o’n rhywbeth dw i mor falch [ohono] a dw i mor falch o fy hynafiaid.”

Rôl y sinema

Gall y byd ffilmiau yng Nghymru ddilyn trywydd India ac addysgu am y frwydr am annibyniaeth i Gymru trwy ffilmiau, meddai.

“Mae gennym ni ddiwydiant ffilm mor ffyniannus yn India, sydd yn gwneud o’n haws i addysgu.

“Mae’n rhyfedd oherwydd roedd fy hynafiaid yn rhan o’r mudiad annibyniaeth yn India a dw i’n rhan o’r mudiad yma yng Nghymru, sy’n grêt.

“Ond i ni yn India, mae’r sinema yn chwarae rôl anferth wrth ddysgu am beth ddigwyddodd oherwydd mae o’n gynrychiolaeth weledol.

“Byddai’n grêt meddwl am y delweddu sinematig o hanes Cymru o fewn y mudiad annibyniaeth yma.

“Mae yna gymaint o straeon anhygoel ond does gennym ni ddim cweit cymaint o gynrychiolaeth.”