Mae adroddiad newydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn tynnu sylw at sut cafodd mawndir diraddiedig Cymru ei adfer yn gynt nag erioed o’r blaen yn ystod 2021/22, gan ragori ar y disgwyliadau.

Mae iechyd mawndiroedd Cymru – sydd hefyd ag enwau deniadol fel mawnogydd, mignenni neu rosdioredd – yn hanfodol i ddiogelwch o ran dŵr, wrth i ni baratoi am ddyfodol o hafau poethach a gaeafau gwlypach wrth i’r hinsawdd newid.

Yn ôl yr adroddiad, cafodd targedau blynyddol Llywodraeth Cymru i adfer 650 hectar o fewndiroedd eu cyrraedd a mwy, gan lwyddo i adfer dros 1,000 o hectarau, sy’n cyfateb i 1,400 o gaeau pêl-droed.

O ystyried bod 70% o ddŵr yfed y Deyrnas Unedig yn dod o ardaloedd o fawndir ar yr ucheldir, mae’r angen i’w hadfer yn glir ar ôl mis [Gorffennaf] pan gwympodd dim ond 56% o’r glaw disgwyliedig fel arfer yma yng Nghymru.

Hefyd, mae hyd at 90% o gorsydd gwlyb yn ddŵr, sy’n golygu eu bod nhw’n rhwystr naturiol sy’n atal tanau gwyllt rhag ymledu ac yn lleihau’r risg o lifogydd ymhellach i lawr yr afon.

Maen nhw hefyd yn storfa garbon hynod effeithlon, gan gadw mwy o garbon yn y pridd na choedwig o’r un faint.

Mae’r 4% o dir Cymru sy’n fawndir yn storio hyd at 30% o’r carbon sydd ym mhridd Cymru, ond mae mawndiroedd sydd wedi’u difrodi yn rhyddhau’r carbon hwn i’r atmosffer, gan gyfrannu at gyflymu’r newid yn yr hinsawdd.

Mae disgwyl y bydd sychder, tanau gwyllt a llifogydd yn gwaethygu dros y blynyddoedd sydd i ddod, felly mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd ar ôl cydnabod y rôl hanfodol mae mawndiroedd yn ei chwarae wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.

Canu clodydd corsydd

“Efallai nad yw corsydd yn swnio’n bethau deniadol iawn, ond maen nhw’n arwyr sy’ ddim yn cael y clod maen nhw’n ei haeddu – yn enwedig yn ystod cyfnodau hir o dywydd sych neu wlyb, fel y gwelson ni’n ddiweddar,” meddai Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd yn Llywodraeth Cymru.

“Pan fydd mawnogydd mewn cyflwr da, nhw yw’r dalfeydd carbon mwyaf effeithlon sydd gennym ar y tir; maen nhw’n gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a phlanhigion, ac maen nhw hyd yn oed yn helpu i buro’n dŵr yfed a’r dŵr byddwn ni’n ymdrochi ynddo.

“Mae adfer y mewndiroedd hyn yn rhan hanfodol o’n hymateb i’r argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd, felly mae’r adroddiad hwn gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn newyddion derbyniol iawn. Dw i am ddiolch iddyn nhw am eu gwaith caled ac am ailddyblu eu hymdrechion i fwrw’r targed!

“Rhaid i ni sicrhau ein bod yn parhau i warchod ac i goleddu’r ecosystem werthfawr sydd gennym ar ein mawndiroedd.”

‘Brwdfrydedd’

“Mae’r llwyddiant a gafwyd wrth adfer dros 1000 hectar o fawndiroedd mewn blwyddyn yn tystio i frwdfrydedd tîm y Rhaglen a’n partneriaid dros gyrraedd targedau uchel o ran gwarchod natur a lleihau carbon er budd pobl Cymru,” meddai Dr Rhoswen Leonard, rheolwr prosiect y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd.

“Er mwyn helpu i gyrraedd y nod, mae Llywodraeth Cymru yn ysbrydoli pobl i weithredu ar fyrder ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’n partneriaid yn darparu’r momentwm a’r gallu i sicrhau bod y Rhaglen hon yn llwyddo.

“Mae adfer mawndir yn faes twf o bwys sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, felly rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’n partneriaid am y llwyddiant rhyfeddol maen nhw wedi’i gael wrth ailwlychu mawn, ac i’r contractwyr arloesol fu’n addasu technegau ac offer er mwyn ymdopi â’r heriau ar y safleoedd.”

Un o’r rhesymau dros lwyddiant y gwaith adfer yw hyblygrwydd o ran cytundebau a chyllid er mwyn sicrhau bod gwaith i adfer mawndiroedd yn mynd rhagddo beth bynnag yw’r sefyllfa o ran perchenogaeth ar y tir.

I weld sut mae’r gwaith i adfer mawndiroedd yn dod yn ei flaen, a’r rôl y maen nhw’n ei chwarae wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, ewch i Porth Data Mawndiroedd Cymru.